Mae’n teimlo fel bod y glaw wedi bod yn dominyddu’r newyddion dros yr ychydig wythnosau diwethaf, felly mae’n teimlo’n briodol i ysgrifennu amdano yn nodiadau’r wythnos hefyd.

Pan fydd glaw trwm yn y newyddion rydym ni’n gweld cynnydd yn y traffig ar ein gwefan. Mae pobl eisiau:

  • gwirio rhybuddion llifogydd
  • gwirio lefelau afonydd
  • gwirio eu risg llifogydd
  • cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd (neu eu canslo)

Dyma’r newyddion ar 12 Ionawr 2023: ‘Llifogydd: Busnesau, cartrefi a thrafnidiaeth wedi’u heffeithio ar ôl glaw trwm ledled Cymru’. A llun o gar mewn llifogydd.

alt text

Ar yr un diwrnod cawsom dros 28,000 ymweliad â’n gwefan. Er mwyn cymharu, ar ddiwrnod arferol rydym yn cael tua 5-6000 ymweliad. Yn naturiol, mae’r cynnydd mewn defnyddwyr yn golygu ein bod yn cael mwy o adborth ac ni allwn beidio â bwrw golwg i weld beth mae’r ddadansoddeg yn ei ddangos i ni.

alt text

Gweld eich risg llifogydd yn ôl cod post

Yn 2021 fe wnaethom ni ail-ddylunio’r gwasanaeth ‘Gweld eich risg llifogydd yn ôl cod post’ mewn ymateb i adborth a phrofion defnyddwyr. Roedd pobl yn cael trafferth defnyddio ein mapiau a deall eu risg llifogydd.

Gall defnyddwyr nawr nodi eu cod post a chael gwybod beth yw’r risg llifogydd ar gyfer eu hardal. Mae hyn yn bodloni anghenion y rhan fwyaf o ddefnyddwyr. Rydym yn gwybod hyn oherwydd cawsom dros 1000 o ymatebion i arolwg gwib ar yr hen dudalen mapiau risg llifogydd.

Roedd hyn yn dangos bod 9 o bob 10 defnyddiwr:

  • ddim yn weithwyr proffesiynol risg llifogydd
  • yn defnyddio’r map i wirio un cyfeiriad, fel arfer eiddo roeddent yn ystyried ei brynu
  • ddim angen gweld ardaloedd ar raddfa
  • ddim angen canlyniad risg ar sail map

Mae’n wych gweld bod y gwasanaeth hwn bellach yn cael tua phedair gwaith yr ymweliadau ar ein mapiau llifogydd. Rhwng 16 Ionawr 2022 a 16 Ionawr 2023 derbyniodd y gwasanaeth dros 532,000 ymweliad.

Cynt:

alt text

Ar ôl:

alt text

Deall canlyniadau risg llifogydd

Ond nid yw pob tudalen llifogydd yn cael llawer o ymweliadau….hyd yn oed yn y glaw!

Dim ond 1,390 ymweliad gafodd y dudalen sy’n helpu pobl i ddeall beth mae’r canlyniadau ar gyfer eu hardal yn ei olygu, ‘Deall eich canlyniadau risg llifogydd’ yn yr un cyfnod. 0.26% o’r cyfanswm ar gyfer ‘Gweld eich risg llifogydd’.

Mewn sampl o 3,500 ymweliad, dim ond 45 gliciodd ar y ddolen ‘Deall eich canlyniadau risg llifogydd’, yn erbyn 1,152 ar gyfer y ddolen ‘Gweld risg llifogydd ar gyfer yr ardal hon ar fap’:

I lawer o ddefnyddwyr, mae’r gwasanaeth ‘Gweld eich risg llifogydd yn ôl cod post’ yn rhoi ateb diamwys i bobl – nid oes angen iddynt ymchwilio ymhellach.

Ategir hyn gan y diffyg adborth a gawn o’i gymharu â’r adborth negyddol rheolaidd roeddem yn arfer ei gael am y mapiau llifogydd.

Anghenion defnyddwyr yn erbyn anghenion CNC

Mewn adborth diweddar mae defnyddwyr wedi gofyn pam nad oes cofnod o lifogydd mewn ardal pan mae llifogydd wedi digwydd yno. Mae hyn oherwydd bod eu heiddo wedi’u gorlifo gan ddŵr wyneb. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn, nid CNC (sy’n ddryslyd!)

Rydym yn gwybod nad yw rhannu cyfrifoldebau llifogydd yn y modd hwn yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae Frazer Rhodes wedi blogio am y broblem hon.

Ond rydym wedi cyflwyno ein dryswch ein hunain yma. Wrth ailgynllunio’r gwasanaeth, gofynnodd arbenigwyr pwnc i ni gynnwys ‘hanes llifogydd a gofnodwyd’ ar y dudalen canlyniadau risg. Roedd hyn er mwyn lleihau’r amser mae’r ganolfan cwsmeriaid a’r tîm risg llifogydd yn ei dreulio yn prosesu ‘ceisiadau yn ymwneud ag yswiriant’.

Mae hyn yn denu defnyddwyr i edrych ar y dangosydd risg anghywir. Mae’r canlyniadau risg uchel/isel/canolig ar gyfer ardal yn seiliedig ar fodelu cyfrifiadurol, ond nid yw’r ‘llifogydd a gofnodwyd’ yn gwneud hynny. Efallai nad oes gennym unrhyw gofnodion ar gyfer ardal neu efallai bod y cofnodion yn annibynadwy.

Dangosodd profion defnyddwyr sut mae rhai pobl yn meddwl bod risg llifogydd yn golygu bod ardal wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol. Mae hyn yn codi’n rheolaidd yn adborth ein gwefan. Gallwn weld isod sut mae datgelu ‘llifogydd a gofnodwyd’ yn arwain defnyddwyr i dybio bod eu canlyniad risg uchel/canolig/isel yn anghywir. Mae hefyd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n ddig ac yn rhwystredig a cholli hyder yn CNC:

alt text

Mae’r esboniad am yr hyn mae ‘llifogydd a gofnodwyd’ yn ei olygu wedi’i gladdu yn y dudalen ‘Deall eich canlyniad risg llifogydd’: dolen mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn ei hanwybyddu.

Fel arfer, gallem weithredu ar yr adborth hwn gan ddefnyddwyr drwy egluro beth mae ‘llifogydd a gofnodwyd’ yn ei olygu ar y dudalen canlyniadau risg. Ond ni allwn ailadrodd i wella’r pen blaen oherwydd nid yw’r gwasanaeth yn Umbraco.

Nid llifogydd yn unig

Rydym yn gweld tueddiadau/problemau tebyg ar draws y sefydliad. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i ddefnyddio dadansoddeg a mewnwelediadau ymchwil defnyddwyr fel hyn i ddangos sut nad yw rhai o’n gwasanaethau’n gweithio yn y ffordd roeddem yn ei fwriadu.

Rhai pethau eraill rydym yn eu gwneud

  • Ychwanegodd Lucinda rai penawdau ac aildrefnu’r dudalen ymchwil ac adroddiadau gan ei gwneud yn haws i’w defnyddio
  • Sylwodd Sam fod llawer o bobl yn cysylltu â ni i ganslo eu manylion llifogydd felly ychwanegodd ddolen i’r dudalen ymholiadau cyffredinol
  • Mae Shaun yn parhau i weithio ar yr ymgynghoriad codi tâl
  • Mae Sophie wedi rhoi’r cynllun corfforaethol ar brawf i gael syniad o sut y gallai edrych ar ôl iddo gael ei gwblhau
  • Mae Laura, Sam a Lucinda yn parhau â’u gwaith i archwilio’r problemau gyda chaniatâd
  • Cyfarfu Heledd â Smart Survey ac mae’n edrych ar opsiynau i uwchraddio rhai o’r nodweddion
  • Mae Phil wedi dechrau ar gam nesaf y prosiect coedwigaeth i edrych ar reoli eich coetir, trwyddedau a chaniatâda
  • Mae Laura a Lucinda wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru’r ffurflen gais ‘trwydded gweithgaredd risg llifogydd’ i wneud iddi weithio’n well i asiantau / ymgynghorwyr sy’n llenwi’r ffurflen ar ran rhywun arall