Weeknotes 20/06/2025
Cyflwyno system ddylunio Cyfoeth Naturiol ar Figma
Arweiniodd Lucinda ‘crit dylunio’ yr wythnos ‘ma i gyflwyno sustem ddylunio Cyfoeth Naturiol Cymru ar Figma.
Mae system ddylunio yn chwarae rhan hanfodol mewn datblygu gwefannau drwy sicrhau:
- cysondeb
- effeithlonrwydd
- profiad defnyddiwr cydlynol
Mae’n cynnig casgliad canolog o:
- gydrannau
- arddulliau
- canllawiau
Gall y rhain gael eu defnyddio gan dimoedd i adeiladu gwefannau. Mae hyn yn symleiddio’r broses ddylunio ac yn hyrwyddo cysondeb brand.
Cyflwyniad CDPS am sut i wneud cyflwyniadau Powerpoint gwell
Mynychodd James a Mary sesiwn gan yr ysgrifennwr a strategydd Russell Davie wedi’i threfnu gan Ganolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus.
Rhanodd Russell lawer o broblemau cyffredin gyda chyflwyniadau, e.e.
- mynd ati i’w greu heb fod yn siŵr beth yw nod y cyflwyniad
- ysgrifennu’r cynnwys fel adroddiad i’w ddarllen, nid profiad llafar
- copio deunydd ysgrifenedig
Awgrymodd Russell ddulliau o greu cyflwyniad effeithiol:
- Defnyddio geiriau mawr – dim mwy na saith gair y sleid
- Cadw e’n fyr – rhannu e’n dair
- Deall nod i’r cyflwyniad, e.e. gofyn am rywbeth yn hytrach na ‘rhannu gwybodaeth’
Gadael i’ch personaliaeth ddod trwyddo trwy luniau, jociau ac ati.
Mynychu digwyddiad LHDT+ y gwasanaeth sifil
Aeth Phil, Kim a Sophie i ddigwyddiad dysgu a rhwydweithio ‘Y gwasanaeth sifil yn ymateb i newid cymdeithasol’ ym Mharc y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd, dydd Iau.
Roedd y digwyddiad yn rhan o Fis Balchder, a gweithiodd rhwydaith LHDT+ ‘Calon’ Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyd gyda chyrff eraill y gwasanaeth sifil i’w drefnu.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i staff, waeth beth oedd eu cyfeiriad rhywiol, ddysgu mwy am gymuned sy’n wynebu newidiadau a heriau mawr yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Heledd yn mynychu cyfarfod uwch arweinyddiaeth ym Mangor
Mynychodd Heledd ei chyfarfod uwch arweinyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol cyntaf ym Mangor ers i’n tîm symud i Ddigidol, Data a Thechnoleg.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i ailgysylltu ag wynebau cyfarwydd a chwrdd â rheolwyr newydd o Gyllid, Archwilio, TGCh, Cyfleusterau a NRW2030.
Cafodd Heledd hefyd arddangosiad gwych gan Holly am waith cŵn cadwraeth - gan dynnu sylw at y gwerth maen nhw’n ei gyfrannu at feysydd fel monitro ffermydd gwynt, lle gall cŵn arogli adain ystlumod yn llawer mwy effeithiol nag y gall pobl weld un. Nodyn atgoffa bod arloesedd yn dod mewn sawl ffurf!
Clywodd Heledd hefyd gan Rachael, ein cyfarwyddwr, am:
- yr angen i wasanaethau mewnol ac allanol ganolbwyntio ar y defnyddiwr, a’r cyfle i dimau DDAT arwain y ffordd (gwych clywed hyn gan uwch arweinydd!)
- ymrwymiad i gynllunio ymlaen llaw gwell – gan gynnwys map tair blynedd ar gyfer yr adran
- uchelgais i’r gyfarwyddiaeth arwain trwy esiampl trwy wella prosesau
- codi proffil ein gwaith i feithrin dealltwriaeth a chefnogaeth gan gydweithwyr
- nodi dangosyddion perfformiad i helpu i olrhain a mesur effaith ein gwaith
Myfyriodd ein cyfarwyddwr Ray Sherry hefyd ar ei 30 diwrnod cyntaf a’r blaenoriaethau y mae’n eu gweld ar gyfer Digidol, Data a Thechnoleg – bydd yn gweithio’n agosach gyda rheolwyr a thimau dros yr wythnosau nesaf i ddechrau gweithredu newidiadau.
Mary yn datblygu ei sgiliau digidol
Mae Mary wedi bod yn y Tîm Digidol ers chwe wythnos bellach ac mae wedi dod i arfer â rhai o’r technegau a’r derminoleg a ddefnyddir gan y tîm. Yn ogystal â sesiynau hyfforddi anffurfiol gyda chydweithwyr, mae hi wedi bod yn gwneud rhywfaint o hyfforddiant ar-lein mwy ffurfiol.
Yr wythnos hon, gwnaeth fodiwl cyntaf cwrs sylfaen Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Cymerodd ychydig dros awr iddi, ac roedd hi’n ei chael yn gyflwyniad da i’r ffordd ddigidol o weithio. Ac yr hinsawdd ddigidol yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae’n gwrs am ddim a gallwch ei wneud ar-lein ar amser sy’n addas i chi. Mae’n bosibl hefyd blymio i mewn i’r adrannau sydd o ddiddordeb i chi a hepgor eraill. Posibl byddai’r modiwl cyntaf yn drosolwg defnyddiol i’r byd digidol i’n cydweithwyr.
Dyma’r ddolen Digital and Agile: the foundations - Centre for Digital Public Services
Arall…
- Mae James a Mary wedi bod yn adeiladu strwythur SoNaRR 2025 ar y wefan TEST newydd.
- Mae Laura wedi dechrau gweithio ar gynnwys trwyddedu rhywogaethau
- Mae Hannah wedi cael myndiad i Adobe Pro (o’r diwedd!) a bydd yn dysgu am sut i wneud gwiriadau hygyrchedd ar ddogfennau.