Nodiadau wythnos 31/05/2024
Mae hi wedi bod yn wythnos eithaf tawel i ni yn y tîm oherwydd gŵyl y banc dydd Llun a’r hanner tymor. Ond posibl dyw y rhieni yn y tîm ddim yn teimlo ei bod mor dawel gartref…
Mae Lucinda a James yn treialu defnyddio ein meddalwedd cyfieithu cof, Phrase, i gynhyrchu’r weeknotes hyn. Rydyn ni wedi ysgrifennu’r rhifyn yn Gymraeg a’i gyfieithu i Saesneg. Felly bach o arbrawf yr wythnos ‘ma.
Cael trefn ar ein CMS
Treulion ni ddydd Gwener diwethaf fel tîm yn cymoni CMS ein gwefan. A llwyddon ail-leoli o leiaf 1,500 o hen ddogfennau!
Ry’n ni wedi neilltuo un dydd Gwener y mis ar gyfer y gwaith pwysig ‘ma.
Roedd y gwaith yn cynnwys:
- Grwpio lluniau mewn ffolderi
- Gwneud yn siŵr bod enwau’r ffolderi yn adlewyrchu strwythur y wefan
- Dileu lluniau a dogfennau nad oedd yn perthyn i dudalennau byw
O dro i dro ry’n ni’n derbyn cwynion gan y cyhoedd neu ein staff am hen gynnwys y wefan yn ymddangos ar beiriannau chwilio. Mae hyn yn achosi problemau i ddefnyddwyr os ydyn nhw’n dod ar draws hen gynnwys o’r fath:
- Gallai fod yn ffeithiol anghywir
- Gallai fod yn gamarweiniol
- Gallai gyfeirio at gynlluniau, prosiectau, ymgynghoriadau ac ati sy’ wedi hen ddod i ben
Wrth graffu’n fanylach ar y broblem, daeth i’r amlwg ein bod wedi di-gyhoeddi’r tudalennau dan sylw. Ond roedd y dogfennau wrth droed y tudalennau ‘ma dal yn bodoli yn llyfrgell cyfyngau y CMS. Oherwydd hynny, roedd peiriannau chwilio weithiau yn eu cyflwyno mewn canlyniadau chwilio.
Felly treulion ni’r dydd yn mynd trwy’n ffolderi CMS i edrych am gynnwys amddifad. Hynny yw, lle nad oedd e’n perthyn i dudalen fyw.
Byddwn ni’n parhau â’r gwaith gyda’r nod o wneud y CMS yn haws i’w ddefnyddio i ni ond hefyd i leihau’r risg o’n defnyddwyr yn gweld hen gynnwys.
Ymchwil defnyddwyr ar rywogaethau
Cwrddodd James a Heledd â Helen Griffiths o dîm Rheoleiddio’r Dyfodol er mwyn trafod edrych ar drwyddedu rhywogaethau fel cam cyntaf prosiect diwygio trwyddedau.
Ry’n ni’n gwybod bod llawer i’w wella ar ein prosesau ar gyfer trwyddedu rhywogaethau. Ar hyn o bryd mae’r cynnwys yn llawn:
- Ffurlenni cais Word
- Iaith ddeddfwriaethol
- Sustem gymhleth o orfod talu am drwyddedau dros y ffôn
Ry’n ni’n credu bydd rhywogaethau yn fan cychwyn da ar gyfer prosiect ehangach ar wella trwyddedu ar draws y sefydliad:
- Mae cymysgedd o geisiadau gan sefydliadau ac unigolion
- Mae nifer fawr o ymgeisiadau bob blwyddyn ond maen nhw’n risg isel
- Mae aelodau ein tîm wedi gweithio ar y cynnwys yn y gorffennol
- Paratoi ar gyfer digwyddiad trwyddedu morol
Mae James wedi bod yn paratoi cwestiynau i ofyn i ymgeiswyr trwyddedau morol mewn digwyddiad wyneb-yn-wyneb yr wythnos nesaf.
Mae ein tîm trwyddedu morol a Llywodraeth Cymru wedi trefnu digwyddiad ‘Cwrdd â’r Rheoleiddiwr’ er mwyn trafod ein gwaith ni a gwrando am unrhyw broblemau mae ymgeiswyr yn eu profi.
Mae Toyah yn dod lawr o’r gogledd ac bydd hi’n gyfle iddi hi a James siarad â’r gynulleidfa mewn awyrgylch llai ffurfiol na chyfweliadau ymchwil. Ry’n ni’n gobeithio bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith ymchwil am drwyddedu morol wnaethon ni gyda Deloitte ddechrau’r flwyddyn.
Bydd hi hefyd yn gyfle i rai o’r tîm sy’n byw yn y de i gwrdd â Toyah am y tro cyntaf!
Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd - steilio ein gwasanaeth a diweddaru system ddylunio Figma
Gyda dim ond chwe wythnos nes iddo fynd yn fyw, mae Lucinda wedi bod yn adolygu dyluniad y gwasanaeth cofrestru rhybuddion llifogydd newydd.
Mae anghysondebau amlwg rhwng y gwasanaeth newydd, sustem ddylunio Figma a ddefnyddir gan y datblygwyr, a’n gwefan. Mae cynnal cysondeb yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn adnabod y gwasanaeth ac yn ymddiried ei bod yn perthyn i ni ac yn gyfreithlon.
Amlygodd prawf hygyrchedd diweddar hefyd faterion gyda chyferbyniad lliw ac arddull cyswllt.
Yn ffodus, mae help wrth law! Bydd Alex o Sparck yn helpu Lucinda i ddiweddaru sustem ddylunio Figma fel bod gan y datblygwyr ddogfennaeth glir o’r steilio rydyn ni’n ei ddefnyddio ar draws ein gwasanaethau.
Mae Lucinda wedi cofnodi’r newidiadau angenrheidiol ond nid oes ganddi’r mynediad (na’r hyder yn ei sgiliau) i ddiweddaru’r ffeil ei hun. Bydd Alex yn helpu gyda’r rhain, gan sicrhau bod ffeil y sustem dylunio yn cael ei storio o fewn cyfrif Figma CNC, a gall Lucinda gysgodi a dysgu’r ffyrdd gorau o’i reoli a’i ddiweddaru.
Bydd diweddaru’r system ddylunio hefyd yn rhoi’r blociau adeiladu i ni ar gyfer dylunio a phrototeipio gwasanaethau CNC yn y dyfodol. Mae Lucinda yn gobeithio cael mewnwelediad i ddylunio mewn ffordd sy’n symleiddio’r llif gwaith o ddylunio i ddatblygiad, gan ei wneud mor effeithlon â phosibl.
Dylunio Cynnwys, ail argraffiad
Ymunodd Heledd â lansiad Content Design, ail argraffiad gan Sarah Winters a Rachel Edwards.
Bu Giles Turnbull yn holi Sarah am yr hyn sydd wedi newid ym myd dylunio cynnwys ers 2017:
- Mae mwy o bobl bellach yn dylunio cynnwys ac yn siarad am ddylunio cynnwys - ac mae angen i ni barhau i wneud hynny.
- Mae disgyblaethau eraill bellach yn cydnabod yr angen i ddod â dylunwyr cynnwys (e.e. rheolwyr cynnyrch, technoleg ac ati) i mewn nawr yn dweud “mae angen dylunydd cynnwys arnom ar y gwaith hwn”
- Pwyslais cryfach o lawer ar fapio taith fel rhan o ddylunio cynnwys – a sut mae hefyd yn helpu i wahaniaethu rhwng dylunio a “dim ond ysgrifennu, neu olygu”. Mae pennod gyfan wedi’i neilltuo i hyn (ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar hyn o bryd: Dylunio Cynnwys, ail argraffiad - Mapio taith)
- Gweithio o bell yw’r ‘norm’ erbyn hyn, felly mae’r llyfr newydd yn adlewyrchu hynny.
Roedd rhai cwestiynau gwych, megis “beth ydych chi’n ei ddweud wrth atalwyr” a “chyngor i arweinwyr” - cyngor Sarah oedd eu cael mewn ystafell (neu rithwir), a dangos yr ymchwil, y data a sut mae’r peth yn methu a chost ei wneud yn y ffordd anghywir.
O ran Deallusrwydd Artiffisial, a’i effaith ar fyd dylunio cynnwys, mae Sarah yn gweld her fwy - bodau dynol. Mewn byd lle mae mwy o gynnwys yn cael ei gorddi gydag Deallusrwydd Artiffisial, mae mwy o gelwyddau’n mynd o gwmpas yn gyflymach, mae rôl dylunio cynnwys i helpu i gael y cynnwys cywir i’r person cywir ar yr amser iawn yn mynd i fod yn bwysicach fyth.
Gwaith arall yr wythnos ‘ma…
- Mae Heledd wedi bod yn cynllunio ein diwrnod tîm 11 Mehefin. Bydd hwn yn gyfle i ni siarad â thimoedd Technoleg Gwybodaeth, Data, a GIS am bosibiliadau’r wefan yn y dyfodol
- Mae Sam a Toyah wedi bod yn gweithio ar syniadau am strwythuro cynnwys trwyddedu morol. Mae Sam hefyd wedi cyhoeddi cynnwys am ailgylchu yn y gweithle
- Aeth Toyah i’w digwyddiad dylunio cynnwys wyneb-yn-wyneb cyntaf sef ‘Content Teatime: The Future of Content Design’ ym Manceinion.
- Mynychodd Alex hyfforddiant ‘Agile’ Canolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus
- Mae Shaun wedi cyhoeddi newidiadau i’n tudalennau ni am amonia. Mae hefyd wedi bod yn gweithio ar ganllawiau ar gyfer hydrogen a gosodiadau
- Mae Owain wedi bod yn gweithio gyda thîm BJSS ar uwchraddio ein CMS
- Mae Kim wedi bod yn gweithio ar Adroddiad blynyddol amrywiaeth a chynhwysiant 2023-24
Ffeithiau dydd Gwener!
- Mehefin yw’r mis gyda nifer fwyaf o oriau golau dydd yn Hemisffêr y Gogledd. Ac wrth gwrs mae y mis gyda’r nifer leiaf o oriau golau dydd yn Hemisffêr y De.
- Wyddoch chi fod mis Mehefin yn arfer bod pedwerydd mis y flwyddyn? Dim ond 10 mis fu i flwyddyn cyn i Iŵl Cesar gyflwyno calendar newydd o 12 mis. A symudodd Mehefin i fod y chweched mis
- Does dim mis arall y flwyddyn sy’n dechrau ar un dydd yr wythnos â Mehefin