Weeknotes 12/01/2024
Croeso i’n rhifyn Cymraeg cyntaf… mae ein nodiadau wythnos wedi eu drafftio’n Gymraeg y tro hwn!!
Nid ydym yn cyfieithu ein nodiadau wythnos…
Ar y dechrau, roeddem yn gyrru ein nodiadau i’r tim cyfieithu. Ond… dyma Garmon a’r tim yn ein herio am yr angen i flaenoriaethu ein nodiadau (oedd yn aml yn hir iawn - oherwydd yr holl waith yn y tim!). Roedd gwaith mwy pwysig iddynt ei gyfiethu (anodd credu??), a gyda’r holl jôcs gwych roedden ni’n eu gwneud, roedd hefyd yn beth eithaf anodd i gyfieithu, ac felly’n cymryd cryn amser… felly fel arbrawf dyma ddrafftio yn Gymraeg a gadael y cyfieithu i Microsoft i weld be gawn ni… Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r tîm Digidol yn awyddus i wneud y Gymraeg yn rhan naturiol o ddylunio cynnwys yn hytrach na dod â hi i mewn ar ddiwedd proses creadigol uniaith Saesneg.
Rydym wedi cynnal cyfweliadau ymchwil yn y Gymraeg am sawl prosiect dros y blynyddoedd:
- rhybuddion llifogydd
- portal mapio i awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol
- eithriadau gwastraff
- coedwigaeth
Mae’r ymchwil hwn yn ein helpu ni i:
- barchu dewis ac anghenion iaith ein defnyddwyr
- deall terminolog naturiol ein defnyddwyr
- adlewyrchu iaith gwaith rhai o’r gynulleidfa
Caniatâd gwneud rhywbeth ar ein tir ni
Mae llawer o bethau ar waith ym mhrosiect caniatadau ar hyn o bryd.
Ymchwil ar farn defnyddwyr am gael caniatâd ffilmio
Mae James wedi cwblhau pum cyfweliad ymchwil i helpu deall profiad ein defnyddwyr wrth ymgeisio am ganiatâd i ffilmio ar ein tir ni.
Roedd tri o’r pum cyfweliad yn y Gymraeg.
Fel nifer o brosiectau eraill, mae barn defnyddwyr yn awgrymu taw ein prosesau a’n dulliau gweithio sydd y drwg yn y caws yn hytrach na chynnwys y wefan.
Y ddau brif beth ddaeth i’r amlwg yn yr ymchwil oedd anhapusrwydd defnyddwyr ynglŷn â :
- gorfod ymgeisio am ganiatâd 12 wythnos cyn y dyddiad ffilmio
- strwythur ffioedd drud oedd yn ffafrio cynhyrchiadau mawr ar draul rhaglenni bach gyda llai o gyllideb
Rydym yn trin ymgeisio am ganiatâd ffilmio yn yr un ffordd â chaniatâd cynnal digwyddiad ar ein tir. Ond lle mae digwyddiadau’n tueddu i gynllunio o gwmpas dyddiad pendant, mae byd cynhyrchu ffilm a theledu’n llawer mwy hyblyg a munud olaf.
Dywedodd pobl wrth James fod y cyfnod 12 wythnos yn hollol afreolistaidd. Mae’r diwydiant yn dibynnu ar weithwyr llawrydd ac weithiau byddai eu cytundebau nhw’n llai na 12 wythnos. Mae’n gyffredin i gael dim ond mis o amser i baratoi lleoliadau.
Felly dyw ein gwasanaeth ni ddim yn cyd-fynd â realiti eu byd gwaith nhw.
Pob person hefyd yn meddwl bod ein categoriau ffioedd yn rhy eang, e.e. codi’r un ffi i griw o 5 ag i criw o 99. Bydd gwahaniaeth enfawr yng nghyllidebau’r ddau brosiect. Mae rheolwyr lleoliadau’n meithrin perthnasoedd gyda thirfeddianwyr a bydden nhw’n disgwyl gweld ffi sy’n adlewyrchu cyllid y cynhyrchiad.
Soniai rhai pobl am ddiystyru Cyfoeth Naturiol Cymru am unrhyw waith heblaw am y golygfeydd mwyaf pwysig. Ac roedd pawb o’r farn ein bod ni’n colli arian trwy fod yn anhyblyg ac yn colli’r cyfle dangos ein tir ni ledled y byd.
Mae Sam, Laura a Lucinda yn mynd trwy nodiadau James i edrych sut gallem eu defnyddio i helpu diwallu anghenion defnyddwyr ar ein gwefan.
Bydd ein Uwch-gyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmer a Masnach yn ymuno â ni i wylio un o’r cyfweliadau a chymryd nodiadau yr wythnos nesaf.
Un ffordd i mewn
I’r rai sydd efallai ddim mor gyfarwydd â ni am y prosiect caniatadau, mae ‘un ffordd i mewn’ yn golygu troi chwe ffurflen gais yn un!
Gwirion ni ein prototeip gyda’r arbenigwr yn y maes yr wythnos ‘ma. Roedd hi’n sesiwn bositif iawn ac rydym yn cynllunio sesiynau ysgrifennu deuawd a gweithio gyda chyfieithwyr (mwy am y dull ‘ma isod).
Y nod yw cyhoeddi hyn ym mis Ionawr…ac rydym yn gweithio’n galed i drio cyflawni hyn.
Cynllun dyfodol y prosiect caniatadau
Bydd Laura’n mynd ar gyfnod mamolaeth ddiwedd Chwefror ac bydd eisiau cynllun gwaith yn ei le ar gyfer y prosiect. Dechreuon ni ddrafftio’r cynllun yr wythnos ‘ma (diolch byth bod Sam â phrofiad yn y maes ‘ma ac yn hoff o ysgrifennu adroddiadau!).
Nod y cynllun yw:
- cofnodi casgliadau’r ymchwil
- dangos yr holl waith rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn
- nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith pellach
Cais i rhannu arfer da am ysgrifennu triawd
Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi gofyn i ni ffilmio astudiaeth achos am y dull o ysgrifennu triawd.
Arloeson ni’r dull ‘ma o gynhyrchu cynnwys dwyieithog nôl yn 2022 tra ein bod ni’n gweithio ar adran coedwigoedd ein gwefan.
Ysgrifennu triawd yw datblygiad o ysgrifennu deuawd, lle mae dyluniwr cynnwys yn gweithio gydag arbenigwr i ddeall:
- y gynulleidfa
- anghenion defnyddwyr y pwnc dan sylw
- tasgau’r defnyddwyr
- unrhyw weithredoedd mae’n rhaid i’r defnyddiwr eu cwblhau
Mae ysgrifennu triawd yn dod â chyfieithydd i mewn o’r cychwyn cyntaf. Yn y dull ‘ma, gall y cyfieithydd gyfrannu a chynghori o ran yr hyn sy’n gweithio yn dda neu ddim yn y Gymraeg.
Yn draddodiadol yn y sector cyhoeddus dyw’r Gymraeg ddim yn rhan o’r broses greadigol. Mae’n dod ar ddiwedd proses ar ôl i’r cynnwys gael ei orffen a’i awdurdodi yn Saesneg. Fel arfer, does gan y cyfieithydd ddim cyd-destun i’r darn o gynnwys, a dim rhyddid chwaith i awgrymu newidiadau creadigol. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at gynnwys Cymraeg sy’n gallu teimlo’n annaturiol a hirwyntog.
Ers arloesi’r dull ‘ma, mae wedi cael cryn dipyn o sylw:
- ysgrifennodd Heledd bennod yn llyfr Ysgrifennu Triawd a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gwasanaethau Digidol Cymru
- rhoddon nifer o gyflwyniadau a drefnwyd gan Ganolfan Gwasanaethau Digidol Cymru
- Cafodd James ei wahodd i siarad â Gofal Cymdeithasol Cymru am y dull ‘ma
Cafodd Heledd sgwrs dda efo Rob Mills am y pwnc wythnos yma hefyd. Mae o yn gweithio gyda CDPS ar brosiect ar greu hyfforddiant ac adnoddau ymarferol ar y pwnc hwn - mae’n debyg bod cyfle i weithio ar y cyd ychydig mwy dros y mis neu ddau nesa!
Cyhoeddi adolygiad afonydd SAC
Mae Sophie wedi cwblhau asesiad hygyrchedd ar adroddiad ansawdd dŵr afonydd Ardaloedd Arbennig Cadwraeth (SAC).
Roedd hon yn dasg enfawr gan fod yr adroddiad dros 100 tudalen ac aeth e nôl ac ymlaen bedair gwaith rhyngddi hi a’r arbenigwyr.
Roedd llawer o’r gwallau hygyrchedd yn deillio o ddefnyddio tablau. Mae gennym dempled y sefydliad ar gyfer rhoi data mewn tablau. Ond efallai y wers yw cwestiynu a oes rhaid i wybodaeth fod mewn tabl o gwbl?
Gwersi dulliau gweithio o ffurflenni trwyddedau sefydliadau
Mae nifer o bethau ar y gweill ynghylch ffurflenni ymgeisio ar gyfer trwyddedau amgylcheddol ar gyfer sefydliadau. Mae Shaun wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp arbenigol ar gynhyrchu hydrogen i greu ffurflen gais benodol ar gyfer sefydliadau sy’n cynhyrchu hydrogen.
Ochr-yn-ochr â hyn, mae Shaun a Sam wedi bod yn craffu ar y gwaith anodd o gyfnewid ffurflenni cais sefydliadau PDF â ffurflen ddigidol Smart Survey (Sam wnaeth y gwaith caib a rhaw tra bod Shaun yn segura dros wyliau’r Nadolig!).
Wedyn diwedd y dydd, dydd Mercher yma cawsant wybod bod dull OPRA (Asesiad Risg Gweithredol) ar bennu ffioedd blynyddol yn newid dydd Llun 15 Ionawr. Mae hyn yn rhan o SRoC (Adolygiad Strategol Codi Ffioedd).
Mae’r dull codi ffioedd yn hynod bwysig i unrhyw un sy’n ymgeisio am drwydded neu drosglwyddo neu roi’r gorau i drwydded. Gan ein bod ni’n cyfeirio at y dull presennol o godi ffioedd drwyddi draw ar y wefan, fe flaenorodd Shaun y gwaith o diweddariadau i adlewyrchu’r newid.
Y casgliad amlwg yw y gallen ni fod wedi delio â’r gwaith yn llawer mwy effeithlon tasen ni’n gweithio yn Agile. Yn lle gwneud cyfres o bethau ar wahân:
- gwneud newidiadau i’r dull presennol o godi ffioedd
- cyflwyno ffurflen gais ddigidol
- cyflwyno ffurflen benodol ar gyfer cynhyrchu hydrogen
- gwneud newidiadau pellach i’r canllawiau ar yr un tudalennau gwe
gallem fod wedi cyd-weithio gyda’r timoedd Trwyddedu a Rheoleiddio’r Dyfodol a lansio’r newidiadau i gyd i gyrraedd amserlen SRoC.
Dyw hi ddim yn fai ar unigolyn neu adran ein bod ni wedi gwneud y gwaith ar wahân mewn ffordd sy’n gwneud gwaith blaenorol yn ddi-werth bron yn syth bin. Ond tasai ein strwythur mewnol yn gadael i staff gael eu secondio dros dro i dîm prosiect, gallem fod wedi gwneud y gwaith un tro mewn ffordd sy’n helpu ein defnyddywr.
Cyhoeddi cynnwys newydd am gasglu cocos
Mae Sam wedi gweithio gyda thîm Pysgota Cocos Aber Dyfrdwy ar broses ymgeisio newydd ar gyfer pysgotwyr proffesiynol. Mae sawl her dylunio i’w hystyried, gan gynnwys sut rydym yn:
- Cwrdd ag anghenion dau gategori gwahanol o ddefnyddwyr mewn un cais: pobl sydd ar ein sustem trwy ymgeisio i ni o’r blaen ac ymgeiswyr newydd
- Helpu defnyddwyr i roi pob manylyn perthnasol i ni fel bod dim gofyn mynd ar ôl ymgeiswyr yn chwilio am wybodaeth sydd ar goll
- Rhoi dewis i ddefnyddwyr hepgor adrannau amherthnasol o’r ffurflen gais, fel bod y broses mor syml â phosibl
- Helpu defnyddwyr ddeall yr hyn maen nhw’n gorfod ei wneud cyn ymgeisio
Cyhoeddi gwasanaeth newydd ar gyfer gollwng dŵr
O’r diwedd mae Laura wedi cael caniatâd cyhoeddi gwasanaeth ar-lein newydd ar gyfer cwmniau dŵr a charthffosydd sy’n ymgeisio i ollwg dŵr i gwrs dŵr. Efallai dim y cynnwys mwyaf apelgar ond un hanfodol! Fel yn achos pob gwasanaeth newydd, byddwn ni’n cadw golwg barcud ar adborth i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio i bobl.
Dro da
Roedd cyfle i ddangos Toyah o gwmpas y swyddfa, a gwneud y mwyaf o’r tywydd braf drwy gerdded dros y bont i Borthaethwy.
Gwaith aelodau eraill ein tîm:
- Mae James wedi cwrdd â Mary Galliers a Heather Crump i’w tywys nhw trwy ein teclyn dadansoddi Hotjar
- Mae Lucinda wedi cwrdd â Heledd a James i ddeall mwy am gefndir prosiect Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd. Mae Lucinda wedi dechrau rôl newydd fel dyluniwr cynnwys yn helpu’r prosiect ‘ma
- Ymunodd Heledd, Alex a Paul â chyflwyniad gan Asiantaeth yr Amgylchedd (Lloegr) i glywed am eu rhaglen fawr i drawsnewid eu gwasanaethau rheoleiddio. Roedd nifer o’r heriau yn gyfarwydd iawn a’n rhai ni - felly rydym yn edrych mlaen i gael clywed mwy, yn enwedig am unrhyw waith ymchwil a mapio gwasanaethau.
- Mae wythnos o gwrs ymsefydlu ar y gweill i Toyah yr wythnos nesaf
- Mynychoedd Alex ac Owain webinar am hygyrchedd a defnyddio PDFs ar wefannau