Yr wythnos hon mae Andrew a Phil yn edrych ar y ffurflenni ar ein gwefan, ysgrifennu pâr, ysgrifennu triawd ac ysgrifennu cynnwys ar gyfer ein defnyddwyr.

Mae hyn yn newid o Andrew a Phil yn dweud jôcs am Mrs Slocombe. Rhag ofn eich bod yn rhy ifanc i’w chofio, daeth Mrs Slocombe yn enwog am serennu mewn comedi teledu o’r enw “Are you being served”.

Mrs Slocombe

Ffynhonnell: Wicipedia

Gwell i ni symud ymlaen… Beth sydd wedi bod yn digwydd yr wythnos hon yn y tîm digidol?

Ysgrifennu pâr a thriawd

Yr wythnos hon wnaeth Phil gwrdd â Rob o FourthWallContent. Mae Rob wedi bod yn ein helpu i wella ardal coetiroedd a fforestydd ar ein gwefan. Mae’n bleser gweithio gyda Rob ac yn sicr mae’n gwybod ei bethau.

Rob a Phil

Ysgrifennu pâr

Mae ysgrifennu pâr yn cynnwys dau berson yn eistedd gyda’i gilydd ac yn ysgrifennu cynnwys mewn amser real. Mae mor syml â hynny!

Efallai ei fod yn syml, ond mae mor effeithiol. Yn hytrach na dylunydd cynnwys yn eistedd ar ei ben ei hun yn ceisio darganfod y ffordd orau o ddisgrifio rhywbeth mor gymhleth â dalgylch afon sensitif i asid, maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i greu cynnwys sy’n ddefnyddiwr ganolog.

Mae dau ymennydd bob amser yn well nag un. Mae’n helpu cael rhywun sy’n gallu cwestiynu’r hyn rydych chi’n ei ysgrifennu, yr arddull rydych chi’n ei ddefnyddio, ac i gadw’r cynnwys ar y trywydd iawn ac wedi’i ffocysu. Mae hefyd yn helpu cael ditectif arall i ddehongli pethau cymhleth.

Yn wir mae Andrew a Phil wedi bod yn ysgrifennu pâr ar y darn hwn ac maen nhw wedi cyflawni gwaith gwych.

Ysgrifennu triawd

Yna, mae ysgrifennu triawd, unwaith y bydd y dylunwyr cynnwys wedi creu tudalen gynnwys drafft rydym yn rhannu’r testun drafft gyda’r tîm cyfieithu rhagorol.

Dyna sut mae ysgrifennu triawd yn gweithio. Yna, mae’r ddau ddylunydd cynnwys o’r sesiwn ysgrifennu pâr (Rob a Phil), yn dod at ei gilydd gyda’r hyfryd Manon o’r tîm cyfieithu i gyfieithu’r cynnwys.

Mae’n cael ei wneud fel hyn gan nad yw pob gair yn cyfieithu i’r Gymraeg yn dda neu o gwbl hyd yn oed. Pan ddechreuon ni ysgrifennu triawd cawsom y frawddeg hon: Your land must not contain any sensitive areas.

Dysgon ni nad yw’n bosibl cyfieithu ardaloedd sensitif gan ei fod colli ei ystyr, felly roedd yn rhaid i ni feddwl am rywbeth arall. Ar ôl gweithio gyda

Manon y cynnig oedd: Your land must not be in a protected area - Ni ddylai eich tir fod mewn ardal warchodedig. Gwnaethon ni hyn ar gyfer y dudalen gynnwys gyfan. Yn hytrach na chyfieithu’r testun air am air, gwnaethon ni’n siŵr bod gan y ddwy iaith gynnwys dwyieithog rhagorol.

Ysgrifennu cynnwys clir sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Mae creu cynnwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn broses o ysgrifennu cynnwys da, clir gyda’r defnyddiwr mewn golwg.

Nid cyhoeddi unrhyw beth yw’r ffordd i greu cynnwys da sy’n ddefnyddiwr ganolog. Mae’r dull hwn yn arwain at wybodaeth ddiwahân sy’n ymddangos ar dudalen we nad oes unrhyw un yn poeni amdano ac na fydd unrhyw un hyd yn oed yn ei darllen. Y gorau y gallem obeithio amdano yn y math hwn o sefyllfa yw i rywun fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiwahân a chymhleth.

Yr wythnos hon gwelodd Phil esiampl dda o’r ymddygiad hwn. Pan rwy’n egluro i bobl pam y dylen ni ysgrifennu cynnwys clir, yn aml rwy’n defnyddio trwydded yrru fel esiampl:

Mae pob un ohonom yn gwybod bod angen drwydded yrru i yrru ar ein ffyrdd ac os nad oes trwydded yrru gennych, rydych chi’n torri’r gyfraith. Er gwaethaf y ffaith ein bod i gyd yn gwybod bod angen trwydded yrru arnom, nid ydym yn darllen y gyfraith nac yn darllen llwyth o wybodaeth bob tro y byddwn yn mynd i mewn i’n ceir.

Mae’n ymddangos bod llawer o gydweithwyr yn credu bod angen i’n defnyddwyr ddarllen am y gyfraith a llwyth o wybodaeth cyn gwneud cais am drwydded neu gyflawni tasg ar-lein.

Enghraifft o gynnwys gwael, diwahân a chymhleth

Dyma un enghraifft o sut i beidio ag ysgrifennu cynnwys sy’n ddefnyddiwr ganolog, mae’r cynnwys hwn ar ein gwefan: Beth a olygir gan ddatblygiad? Mae Adran 55 (1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) yn diffinio ‘datblygiad’ fel “…cynnal gwaith adeiladu, peirianneg, mwyngloddio neu unrhyw weithrediadau eraill mewn, ar, dros neu o dan dir, neu wneud unrhyw newid sylweddol i ddefnydd unrhyw adeiladau neu dir arall.”

At hynny, ni unrhyw ffi yn berthnasol i gais am drwydded sy’n angenrheidiol i weithredu datblygiad (boed hynny hefyd yn ddatblygiad deiliad tŷ) bod yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol wedi derbyn ei fod yn dod o dan yr eithriad yn Rheoliad 4 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 gan fod yr awdurdod wedi ei fodloni ei fod yn ymwneud yn unig â phwerau penodol i godi tâl a swm rhesymol ar gyfer y trwyddedau hyn yn Paragraph 57.5 of the 2017 Regulations, section 16.5 of the Wildlife & Countryside Act 1981 and Article 12A of the Functions Order 2013. Sylwch nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Cynnwys clir, da sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Nid yw’r testun ‘beth a olygir gan ddatblygiad?’ yn glir iawn i’r defnyddiwr. Nid yw’n glir os oes angen trwydded arnoch chi neu beidio, nid yw’n glir beth yw pwrpas y drwydded. Mae’r testun hefyd yn sôn am ffi, ond beth yw’r costau?

Mae’r dylunwyr cynnwys hyfryd yn y tîm digidol yn gwneud eu gorau glas i gyhoeddi cynnwys clir, da sy’n ddefnyddiwr ganolog.

Pe byddai Phil wedi cael cyfle i greu cynnwys clir da, byddai ‘beth yw ystyr datblygiad?’ yn darllen: Gwnewch gais am drwydded ddatblygu.

Mae’n erbyn y gyfraith i:

  • ddal, anafu, neu ladd bywyd gwyllt yn fwriadol,
  • difrodi neu ddinistrio mannau bridio neu orffwys bywyd gwyllt
  • cludo, gwerthu neu gyfnewid bywyd gwyllt byw

Rydym yn codi £133 am drwyddedau os ydych yn cynnal unrhyw ddatblygiadau lleol neu ddatblygiadau mawr.

Ni fyddwn yn codi tâl am drwyddedau os ydych yn gwneud:

  • Datblygiadau i gartrefi
  • gwaith cynnal a chadw o eiddo lle nad oes angen caniatâd cynllunio
  • datblygiad sy’n darparu mynediad a chyfleusterau i bobl anabl

Y casgliad:

Mae ysgrifennu cynnwys clir da yn helpu’r defnyddwyr i wybod yn syth beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i gwblhau tasg.

Does dim rhaid iddyn nhw fynd i drafferth, does dim rhaid iddyn nhw ein ffonio am nad oes ganddyn nhw gliw am yr hyn rydyn ni’n siarad amdano. Does dim rhaid iddyn nhw lafurio drwy reoliadau na gwybodaeth a’u dehongli cyn darganfod bod dal, anafu, neu ladd bywyd gwyllt yn erbyn y gyfraith.

Gallai cynnwys gwael, cymhleth fod yn drychinebus i’r bywyd gwyllt. Nid oedd y defnyddiwr yn gallu deall y cynnwys, neu gallai’r defnyddiwr anwybyddu’r wybodaeth gymhleth am y gyfraith. Gallen nhw beidio â gwneud cais am drwydded yn y pen draw, gan arwain at ddinistrio’r bywyd gwyllt na’i gynefin

Y Tîm Digidol yw perchnogion gwefan CNC

Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi’i grynhoi yn y llawlyfr Cynnwys, yn nodi ein bod ni wedi’n grymuso ac yn gyfrifol am benderfyniadau ar y wefan - ond o ddydd i ddydd, nid yw’n teimlo felly.

Ein ffurflenni - mae’r esblygiad digidol yn parhau

Mae Phil ac Andrew wedi bod mor brysur â moch daear yn cael eu setiau yn barod ar gyfer cenau newydd yn y gwanwyn.

Yn hytrach nag amnewid hen welyau ar gyfer rhai newydd a chloddio siambrau newydd, maen nhw wedi bod yn amnewid llawer o hen ffurfiau copi caled y trwyddedau rhywogaethau a’u gwneud yn fersiynau a chynnwys newydd ar-lein.

Cawson nhw broblemau wrth gyfieithu’r ffurfiau hyn gan iddyn nhw gael eu hanfon yn fformat copi caled gwreiddiol Microsoft Word. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd gweld y diwygiadau a gafodd eu gwneud yn y fformat digidol newydd.

Buom yn gweithio gyda’r tîm cyfieithu a’r tîm rhywogaethau (a oedd yn ei chael hi’n anodd iawn ddiweddaru gwahanol fersiynau yn Word). Cytunwyd bod unrhyw ddiwygiadau i’w gwneud i’r ffurflenni hyn yn y dyfodol yn cael eu gwneud mewn fformat digidol yn hytrach na’r hen fersiynau copi caled.

Roedd yr ateb hwn yn help mawr i’r tîm digidol a rhywogaethau a bydd yn cefnogi’r tîm cyfieithu ymhellach i leoli unrhyw newidiadau ar ffurfiau Cymraeg a Saesneg o’r ffurflenni.

Mae pawb ar ei ennill felly a gorau oll, ni chafodd unrhyw foch daear eu niweidio wrth greu’r ffurfiau digidol ar gyfer ein tudalennau newydd.

Dancing Badger

Ffynhonnell: Wicipedia

Cyfrifiad ar-lein

Roedd yr wythnos hon yn rhan dau o ddysgu’r cyfan am y cyfrifiad ar-lein. Mae ambell un o’r tîm wedi mynychu’r sgyrsiau ar-lein hyn ac wedi eu gweld yn ddiddorol iawn.

Yn 2021, cynhaliodd llywodraeth y DU y cyfrifiad ar-lein a chynigiodd y dull hwn fanteision amrywiol, gan gynnwys ansawdd data gwell, rhwyddineb cwblhau i’r defnyddiwr, prosesu data’n gyflymach a llai o gostau ac effaith amgylcheddol.

Nodau dull cyfrifiad ar-lein-cyntaf oedd:

  • gwella ansawdd data
  • lleddfu baich ymatebwyr
  • galluogi i ymatebion gael eu prosesu’n gyflymach
  • lleihau costau ac effaith amgylcheddol

Mae’r gweminarau sy’n cael eu harwain yn wythnosol gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i’n tîm wrth wella ein gwasanaethau wrth i ni symud prosesau ffurf papur traddodiadol, megis trwyddedu, i ffurflenni ar-lein, ar gyfer yr holl fuddion a restrir uchod.

Mae’r swyddogaeth gynyddol a’r gallu i ganolbwyntio ar ardaloedd llai i ymchwilio i ostyngiad mewn cyfraddau ymateb, yn caniatáu adnabod materion fel y gallai tîm y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei ddatrys yn gyflymach.

Arweiniodd yr hyblygrwydd a hygyrchedd a ymgorfforwyd yn y cynllun at ganlyniad cadarnhaol, gan ganiatáu i gyfradd ymateb y cyfrifiad ar-lein cyntaf hwn ragori ar y targedau a osodwyd.

Pethau eraill rydyn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw:

  • Mynychodd Laura y trosolwg o’n sesiwn gwasanaethau digidol. Mae hi’n parhau i wneud gwaith ardderchog
  • Mae Heledd, James a Sam wedi bod yn cwrdd â Mima i drafod rhestr gwasanaethau CNC
  • Mae James wedi cynnal dau gyfweliad defnyddiwr am ein tudalen ‘Coetiroedd a fforestydd’ newydd
  • Rhoddodd Laura a Lucinda gyflwyniad ‘Teams’ i 44 o gydweithwyr yn CNC ar ein cynnwys gwe a’n llawlyfr cyhoeddi wedi’i ddiweddaru - roedd llawer o gwestiynau diddorol a chamodd Shaun i’r adwy a’u hateb gan ddangos gwaith tîm ar ei orau
  • Mae Sophie a Kim wedi bod yn gweithio drwy ffurflenni ar-lein ac yn ystyried llwybrau newydd, symlach i arwain defnyddwyr at y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion.
  • Mynychodd Sophie wythnos un o gwrs dylunio cynnwys, i ddeall yn well sut y gallwn wella teithiau ein defnyddwyr trwy’r wefan trwy ddylunio cynnwys addas ar eu cyfer ac nid dim ond ein sefydliadau.
  • Mae’r Tîm Digidol wedi bod yn rhannu syniadau i symleiddio ein proses waith, a rhoi’r syniadau ar waith drwy greu bwced cynnwys newydd i storio tasgau sydd ar y gweill. Mae hyn yn golygu bod ein tîm yn ymwybodol o ddyddiadau cau ac yn caniatáu i dimau o fewn y sefydliad gysylltu â ni yn gynharach gyda’u ceisiadau, gan sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni’n brydlon. Wrth anfon ceisiadau mewnol i’n tîm, defnyddiwch y ffurflen gais cynnwys a manylu ar unrhyw ddiweddariadau, cynnwys newydd neu newidiadau yr hoffech chi weld, gan gynnwys atodi unrhyw ddogfennau, yr URL yr hoffech i ni weithio arno a dyddiad cau’r dasg hon. Rydym yn annog pobl i beidio â gofyn i waith gael ei wneud ‘mor gynted â phosibl’ gan fod hyn yn gwneud cynllunio ein llwyth gwaith a dyrannu tasgau yn deg ymysg ein tîm yn anoddach. Os nad oes gennych ddyddiad cau penodol mewn golwg, dywedwch hyn ac awgrymu dyddiad cwblhau amcangyfrifedig, a byddwn yn gweithio i gwblhau eich cais o fewn y ffrâm amser amcangyfrifedig
  • Mae Shaun yn gweithio ar nifer o dudalennau gwe ar gyfer deiliaid trwyddedau amgylcheddol ffermio dwys.