Weeknotes 31/03/2023
Mae hi wedi bod yn wythnos wallgof arall i’n tîm bychan ond un sydd wedi’i ffurfio’n berffaith.
Rydym wedi cyhoeddi’r cynllun corfforaethol, wedi ysgrifennu cynnwys codi tâl newydd, wedi diweddaru ffurflenni gyda’r wybodaeth codi tâl newydd. Ac mewn rhai achosion, rydym wedi ail-ddylunio ffurflenni’n llwyr, gan ei gwneud hi’n haws i’r defnyddiwr wneud cais am drwydded.
Byddwn yn siarad mwy am rai o’r pethau hyn pan fyddan nhw’n mynd yn fyw dros yr ychydig wythnosau nesaf. Ond mae hyn wedi gwneud i ni feddwl am y swm enfawr o waith rydym ni’n ei gyflawni mewn un wythnos.
Nifer o chwalfeydd bychain…
Nid yw’r mis hwn yn unigryw, mae’r tîm bob amser dan bwysau gyda chyfres o chwalfeydd bychain a bloeddiadau am rym yn ein cario drwy’r wythnos.
Mae rhwng 30 a 50 o geisiadau cynnwys yn ein cyrraedd bob wythnos. Rydym yn ymateb i geisiadau cynnwys ac, ar yr un pryd, yn gweithio ar brosiectau mawr (fel caniatâd, coedwigaeth, grantiau, Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd, cyngor cyn ymgeisio). Mae James a Lucinda hefyd yn bwrw ymlaen drwy’r cwrs dylunio gwasanaethau.
Pam ydym ni’n gwneud y prosiectau mawr os oes gyda ni gymaint o waith arall i’w wneud?
Rydym ni’n gwybod nad yw llawer o’r cynnwys ar ein gwefan yn gweithio. D’yw pobl ddim yn gallu dod o hyd i’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano ac yn aml maen nhw’n cael eu gorfodi i gysylltu â ni, gan wastraffu eu hamser nhw a’n hamser ni. Rydym am gynnig dull mwy hunanwasanaeth, gan roi cyfle i’r defnyddwyr gyflawni eu tasg ar-lein.
Rheoli’r sŵn
Gyda chymaint o waith ar y gweill ar yr un pryd, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd i reoli’r sŵn. Rydym yn defnyddio teclyn defnyddiol iawn yn Microsoft Teams a elwir yn fwrdd cynnwys. Byddwn yn mynd drwy’r bwrdd ddwywaith yr wythnos ac yn gweithio allan pwy fydd yn gwneud beth a phryd, yn dibynnu ar y terfynau amser.
Andrew, Kim, Sophie, a Lucinda sy’n derbyn y rhan fwyaf o’r gwaith cyhoeddi.
Sam, Shaun, Laura, a Phil sy’n derbyn y ceisiadau dylunio cynnwys.
Heledd a James sy’n derbyn popeth arall. Mae’r ddau hyn yn gwneud llwyth o bethau dydyn ni ddim yn eu deall.
Iechyd meddwl
Rydym ni’n dîm bach clos a hyfryd, ac yn hoffi parti da i’n cadw ni’n gall. Mae Heledd (ein rheolwr) yn wych! Mae hi mor ofalgar, caredig, yno bob amser i wrando ac mae’n cynnig cyngor gwych. Rydym ni’n meddwl ei bod hi’n ace.
Ond allwn ni ddim gwadu bod y pwysau yn ein llethu o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, rydym yn mynd at ein gilydd gan gynnig cefnogaeth. Rydym yn annog ein gilydd i wneud pethau syml fel mynd am dro, cael egwyl am baned, neu refru. Serch hynny, fydd hyn ddim bob amser yn trwsio pethau, felly mae’n rhaid i ni bob amser reoli ein llwyth gwaith, herio’r terfynau amser (sy’n afrealistig weithiau), neu jest dweud na weithiau.
Os oes unrhyw un arall yn teimlo’r un peth, mae rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol gan yr elusen Mind.
Mae’r cynllun corfforaethol bellach yn fyw
Roedd yr wythnos hon yn wythnos fawr yng nghalendr Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda lansiad ein cynllun corfforaethol newydd.
Yn ein cynllun corfforaethol newydd ar gyfer 2030, ‘Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd’, rydym yn nodi sut y gallwn wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd yng Nghymru. Mae’r cynllun corfforaethol newydd yn egluro sut y byddwn yn cydweithio ag eraill er mwyn sicrhau bod dyfodol ein planed yn cael ei ddiogelu a sut y gellir adfer natur.
Lansiwyd fideo’r cynllun corfforaethol er mwyn tynnu sylw at y gwaith pwysig rydym yn ei wneud o ddydd i ddydd – edrychwch arno, efallai y byddwch hyd yn oed yn sylwi ar rai wynebau cyfarwydd!
Roedd llawer o elfennau yn y cynllun corfforaethol, ac roedd angen ystyried y rhain yn ofalus gyda golwg ar sut roedden nhw’n cael eu harddangos ar y wefan. Roedd yn rhaid i ni sicrhau bod y cynnwys yn llifo o safbwynt y defnyddiwr a’i fod yn naturiol ac yn rhesymegol. Fe ddefnyddiom ni i-boxes er mwyn cysylltu’r cynnwys â’i gilydd ar draws pob un o’r tudalennau gwe gwahanol, ac fe chwalon ni flociau mawr o destun gyda delweddau, er mwyn ennyn diddordeb y darllenwyr hyd at y diwedd.
Un cam gwerthfawr yn y broses hon oedd bwydo gwybodaeth yn ôl, gydag eraill yn gweithio mewn timau gwahanol er mwyn rhoi’r cynllun corfforaethol ar waith. Bu Lynette o’r tîm cyfathrebu, Garmon o’r tîm cyfieithu, a Heledd a Sophie o’r tîm digidol i gyd yn cydweithio er mwyn rhannu a rhoi adborth ar waith ar gynnwys y we. Arweiniodd y ffordd gydweithredol hon o weithio at broses llyfnach a mwy effeithlon. Aeth y cynnwys yn fyw ar amser fel bod Swyddfa’r Cadeirydd yn gallu lansio’r cynllun corfforaethol newydd.
Archwiliad hygyrchedd
Rhaid i bob Corff Sector Cyhoeddus sicrhau bod eu gwefannau yn hygyrch i bawb.
Yr wythnos hon cawsom e-bost yn dweud bod swyddfa’r cabinet wedi archwilio ein gwefan, ac fe gychwynnodd hyn banig bach ysgafn. Roedd swyddfa’r cabinet wedi anfon rhestr o bethau atom nad oedd yn hygyrch ar y wefan.
Rhaid i ni weithredu’n gyflym gan mai dim ond saith diwrnod sydd gennym i gadarnhau ein bod wedi derbyn yr adroddiad archwilio. Yna mae gyda ni 12 wythnos i ddatrys y problemau maen nhw wedi’u canfod. Rhaid inni hefyd sicrhau bod ein datganiad hygyrchedd yn gyfredol.
Ar ben yr holl dasgau hynny, rhaid i ni hefyd gynnal archwiliad hygyrchedd o’n gwefan i ganfod a oes angen trwsio unrhyw beth arall. Byddwn yn ychwanegu unrhyw beth arall rydym yn ei ddarganfod sydd angen ei drwsio at ein datganiad hygyrchedd. Rhaid inni hefyd roi cynllun ar waith i drwsio’r pethau hyn yn ddiweddarach.
Yn anffodus, nid yw pethau’n gorffen fan ’na. Mae swyddfa’r cabinet yn gwirio ein gwefan eto i wneud yn siŵr ein bod wedi datrys y problemau a nodwyd ganddyn nhw. Maen nhw hefyd yn ail-wirio ein datganiad hygyrchedd er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gyfredol.
Os byddan nhw’n gweld nad ydym wedi trwsio’r problemau hynny, byddan nhw’n dweud wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fydd yn cymryd camau pellach.)
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n tîm TG rhagorol, ac rydym yn hyderus y byddwn ni’n gallu trwsio’r problemau a nodwyd gan yr archwiliad cyn pen y terfyn amser o 12 wythnos.
Ein nod bob amser yw sicrhau bod gyda ni wefan sy’n hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.
Grant newydd ar gyfer mawndiroedd
Ar fater y gwaith gwastraff, mae Sam wedi bod yn gwneud yr hyn all hi i gael cynnwys newydd gan y tîm grantiau yn barod erbyn y grant newydd ar gyfer mawndiroedd sy’n agor ar 31 Mawrth. Mae gwaith i’w wneud o hyd ar gynnwys y grant. Mae rhywfaint ohono ychydig yn ailadroddus ac, fel y gwyddom, nid yw dweud un peth sawl gwaith yn sicrhau y bydd pobl yn gweithredu arno. Bydd bod yn syml, yn glir ac yn uniongyrchol - a rhoi i ddefnyddwyr yr hyn sydd ei angen arnyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw - yn gweithio’n llawer gwell. Mae Sam yn mynd i weld eisiau gweithio gyda Pip a Steve, Busnesau Bach a Chanolig, ar y cynnwys a’r ffurflenni ‘gwneud cais am drwyddedau gwastraff’ – y ddau yn bobl wych a hyfryd.
Pethau eraill rydym ni wedi bod yn eu gwneud …
- Mynychodd Andrew gwrs hynod ddiddorol sesiwn ginio a dysgu y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol o’r enw ‘Agored i bawb: sicrhau bod eich gwasanaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb’ - gan ysgogi ymhellach ein hymagwedd at ddylunio a chynwysoldeb defnyddwyr ar gyfer unrhyw un sy’n ymweld â’n gwefan er mwyn cyflawni tasg.
- Derbyniodd Andrew fwy o ffurflenni gollwng dŵr yn ôl o’r adran gyfieithu ac ychwanegodd y Gymraeg at ein ffurflenni ar-lein, yn barod ar gyfer dyddiad cau’r Adolygiad Strategol o Daliadau.
- Lluniodd Andrew hefyd ffurflen newydd ar gyfer Gollwng Dŵr - Hysbysiad i waredu dip defaid gwastraff i’r tir
- Lluniodd Sophie a Laura lawlyfrau hyfforddi Umbraco er mwyn cefnogi dechreuwyr newydd i ddefnyddio’r feddalwedd
- Mae Sophie a Kim hefyd wedi bod yn diweddaru i-boxes ar draws y wefan
- Mae Sophie wedi bod yn diweddaru adnoddau llifogydd a thaflenni ar y Fewnrwyd er mwyn sicrhau bod gan staff fynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf.
- Ymunodd Heledd â chyfarfod panel cynghori cyntaf y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar gyfer 2023. Mae cymysgedd o bobl â sgiliau a phrofiad gwahanol ar y panel – o lywodraeth Cymru, y DU a’r Alban, yn ogystal â phobl sy’n gweithio yn y trydydd sector. Y pwnc y tro hwn oedd beth yw’r lleiafswm sgiliau ymarferol fydd eu hangen ar dîm digidol.
- Cyfarfu Heledd ag aelod o dîm Gwe Ganolog Llywodraeth Cymru i drafod ffyrdd y gallwn barhau i weithio’n agosach, er mwyn helpu ein timau, a defnyddwyr.
- Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ddolen at ein cynnig gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru at gynnig [LLYW.CYMRU datganiad](. Rydym ni’n meddwl bod hyn yn eithaf cŵl!+ Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ddolen at ein cynnig gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru at gynnig LLYW.CYMRU datganiad. Rydym ni’n meddwl bod hyn yn eithaf cŵl!