Mae mis Mawrth yr un mor brysur ag y gwnaethom ragweld y byddai yn y nodiadau wythnos o fis yn ôl. Fel tîm, roeddem wedi paratoi cymaint ag y gallwn, ond mae’n teimlo’n brysurach nag erioed.

Rydym yn wirioneddol ddiolchgar bod gennym dîm cefnogol. Yn fwy nag erioed, rydym yn atgoffa ein hunain ei bod yn bwysig i gydweithwyr ofyn am waith drwy’r llwybr ffurfiol o gyflwyno ffurflen gais am gynnwys – gan nad yw’n deg i unigolion gael eu boddi gan negeseuon e-bost wrth weithio mor galed.

Dysgu gydag eraill ac oddi wrth eraill

Rydym wrth ein boddau yn clywed gan bobl sy’n gweithio mewn timau dylunio a digidol sy’n gweithio ar heriau tebyg i ni – mae’n rhoi cymysgedd o ysbrydoliaeth a hyder ein bod ar y trywydd iawn.

Wythnos Gwasanaethau 2023 – y pethau allweddol a’r hyn a ddysgwyd

Er gwaethaf popeth oedd yn digwydd, gwnaethom lwyddo i wneud amser i adnewyddu ein gwybodaeth a dysgu pethau newydd yn y cyflwyniadau a gynhaliwyd fel rhan o [Wythnos Gwasanaethau 2023]((https://services.blog.gov.uk/2023/02/06/join-services-week-2023/).

Buom yn siarad â rhai o’r tîm i glywed am yr hyn a ddysgwyd ganddynt yn ystod y cyflwyniadau a’r gweithdai.

Dyma’r hyn oedd ganddynt i’w ddweud:

  • Uchafbwynt wythnos Sophie, fel rhywun â dyscalcwlia, oedd dysgu mwy am y gwaith o ddylunio cynnwys i gefnogi pobl eraill sy’n debyg iddi. Gallai defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf o adroddiad Plain Numbers i lywio ein proses ddylunio helpu miloedd o ddefnyddwyr i gael mynediad i’n gwasanaethau ynghylch taliadau.
  • Roedd Heledd wedi mwynhau clywed y newyddion diweddaraf ynglŷn â map trywydd Gov.uk, a’i nod o gyrraedd y 75 o wasanaethau sy’n ‘wych’ erbyn 2023.Roedd hefyd yn ddiddorol clywed am y nod o sicrhau bod 90% o arweinwyr y gwasanaeth sifil yn deall beth sydd ei angen ar gyfer arweinyddiaeth ddigidol.
  • Roedd Sam a Heledd yn llawn cyffro am y gwaith a rannwyd gan yr Adran Addysg, o ran dogfennu eu hanes dylunio (sy’n rhywbeth mae Sam wedi’i ddechrau hefyd), a’i dull o sicrhau safonau dylunio.

alt text

Rydym wedi creu bwrdd murlun i’n tîm adael nodiadau, pethau a ddysgwyd a dolenni – byddwn yn parhau i ychwanegu at hwn gan fod rhai ohonom yn awyddus i ddal i fyny â recordiadau o rai sesiynau pan fyddant ar gael.

alt text

Cinio a dysgu a gwneud cysylltiadau newydd

Yn aml pan fyddwn yn cynnal gwaith ymchwil defnyddwyr, yn enwedig o ran cynnwys a gwasanaethau i ffermwyr a thirfeddianwyr ar bynciau fel plannu coed a ffermio, mae rhywfaint o’r adborth yn ymwneud â rhan o’r daith sydd ar wefannau pobl eraill.

Yr wythnos hon, gwnaeth Heledd gyflwyniad ar bolisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru i siarad am sut rydym yn gweithio a’n cynnig gwefan, a dechreuodd sgwrs am sut y gallwn geisio gweithio’n well gyda’n gilydd. Rydym yn edrych ymlaen at ddod i adnabod y timau yn Llywodraeth Cymru yn fwy fel y gallwn helpu i gydgysylltu’r daith i bobl sydd angen cyrchu gwefannau eraill, fel rhan o dasg y maent yn dod i wefan CNC i’w gwneud.

Cynllun Corfforaethol – yn barod i gychwyn!

Mae ein tîm hefyd wedi bod yn brysur yn profi’r Cynllun Corfforaethol ar draws ystod o fathau o gynnwys ac yn defnyddio adborth i sicrhau bod y cynnwys yn ymgysylltu â defnyddwyr yn gyffredinol. Fel rhan o’n gwaith yn profi’r cynnwys i weld sut y bydd yn ymddangos ar y wefan, rydym hefyd wedi bod yn adolygu ein cynnwys presennol i ddileu cynnwys anweithgar, hen ffasiwn o’r wefan.

Rydym wedi parhau â’n gwaith o archwilio’r adran “Amdanom Ni” ar ein gwefan, gan ystyried y strwythurau mwyaf rhesymegol a hygyrch trwy’r rhan honno o’r wefan. Rydym wedi bod yn defnyddio ein data Google Analytics i sefydlu pa dudalennau a lawrlwythiadau tudalennau sy’n flaenoriaeth i’n defnyddwyr, ac yn blaenoriaethu’r rhain i wella taith y defnyddiwr drwy ein gwasanaethau.

Cynnwys hygyrch yn ysgogi ymgysylltiad ar-lein

Mae ein gwaith gyda thîm yr Ardal Forol i wella hygyrchedd ei adroddiadau tystiolaeth wedi bod yn dwyn ffrwyth, gyda’r canfyddiadau’n cael eu rhannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Er enghraifft, amlygodd Parth Cadwraeth Morol Skomer fod amrywiaeth y rhywogaethau noethdagellogion ym Mharth Cadwraeth Morol Skomer yn eithriadol o uchel, gyda 70% o holl rywogaethau’r DU yn cael eu cynrychioli yn yr ardal. Mae’r cymunedau cyfoethog yn llawn bywyd fel y gwelir yn y lluniau yn yr adroddiad.

alt text

Trwydded ar gyfer gweithio mewn neu ger afon (sef trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd)

Mae Laura a Lucinda wedi bod yn diweddaru / gwella’r cais am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd. Yr wythnos hon, gwnaeth Laura gyfarfod â’r tîm i siarad am y ffordd y maent yn codi tâl am drwyddedau. Bydd y swm y mae angen i rywun ei dalu am y drwydded yn amrywio yn dibynnu ar yr hyn y mae am ei wneud ac ymhle. Gall rhai defnyddwyr gael gostyngiadau ond mae’n rhaid iddynt ein ffonio i gadarnhau p’un a ydynt yn gymwys.

Yn rhyfeddol, cytunodd y tîm y gallai pethau fod yn symlach, ac roedd yn ddefnyddiol iddo edrych arno o safbwynt y defnyddiwr. Rydym yn mynd i weld a allwn ddefnyddio SmartSurvey i helpu pobl i gyfrifo eu ffioedd. Efallai na fydd yn bosibl oherwydd pa mor gymhleth yw’r taliadau, ond rydym am roi cynnig arni i ddangos i’r tîm sut y gallai pethau edrych!

Ffordd glir newydd o wneud pethau

Mae gennym adroddiadau mawr ar y cyd am adweithyddion niwclear. Gwnaeth Heledd a Laura gyfarfod â’n cynghorydd arbenigol ynghylch ymbelydredd i siarad am y ffordd orau o gyhoeddi’r adroddiadau i wneud yn siŵr eu bod yn hygyrch ac ar gael yn ddwyieithog. Rydym yn edrych ar wneud pethau ychydig yn wahanol i sut y gwnaethom yn y gorffennol.

Rydym am symud i ffwrdd o gyhoeddi popeth y gofynnir i ni ei wneud a dyblygu cynnwys o bosibl. Rydym am gysylltu â’r adroddiadau sy’n cael eu cynnal ar wefannau partneriaid yn lle hynny, ac annog y tîm i ysgrifennu blogiau pan fydd ganddo rywbeth i’w ddweud yn hytrach na chyhoeddi tudalennau prosiect technegol nad ydynt yn cael eu diweddaru’n aml.

Pethau eraill rydym wedi bod yn eu gwneud…

  • Gwnaeth Shaun ac Andrew gyfarfod ag Emma Allcorn i greu ffurflen ddigidol amrywiad symlach ar gyfer adnoddau dŵr. Mae eu gwaith gyda Dave Jones wedi parhau drwy gydol yr wythnos, gan weithio i gwblhau a chreu ffurflenni tynnu dŵr newydd a chynnwys gwe i gyd-fynd â’r Adolygiad Strategol o Godi Tâl (SRoC).
  • Gwnaethant fynychu cyfarfod Portffolio’r Adolygiad Strategol o Godi Tâl, lle buom yn trafod cyngor cyn ymgeisio a chyngor dewisol. Roedd yn dda cael pawb ar yr un lefel o ddealltwriaeth a siarad am sut y gallem ddechrau gwella’r gwasanaethau hyn i ddefnyddwyr.
  • Diolch yn fawr unwaith eto i’n tîm cyfieithu am fod yn anhygoel ac yn gweithio mor galed i gael y cynnwys newydd a’r ffurflen ddiwygiedig wedi’u cyfieithu.
  • Gwnaeth Laura a James ymuno â chyfarfod Rhwydwaith Ymarferwyr Profiad y Cwsmer i ddysgu am y gwaith sy’n digwydd yn y maes hwnnw.
  • Gwnaeth Lucinda a James ddechrau cyfweld â dechreuwyr newydd i CNC fel rhan o’n cwrs Dylunio Gwasanaethau ar Waith.
  • Gwnaeth James ymuno â chymuned ymarfer dylunwyr cynnwys y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
  • Rydym i gyd wedi bod yn galw i mewn i weminarau Wythnos Gwasanaethau.
  • Mae James wedi bod yn hyrwyddo ymarfer didoli cardiau coetiroedd newydd yn ein cylchlythyr ‘Materion Pren’.