Nodiadau ychydig yn fwy cryno gan y Tîm Digidol yr wythnos hon wrth i ni gau pen y mwdwl ar ddau ddarn sylweddol o waith, sef yr Adolygiad Strategol o Godi Tâl a’r Cynllun Corfforaethol.

Mae’r Adolygiad Strategol o Godi Tâl wedi cynnwys y rhan fwyaf o’r tîm ar ryw adeg neu’i gilydd ac wedi bod yn ganolbwynt i sylw tri neu bedwar ohonon ni ers y Nadolig. Mae’n cynnwys tudalennau gwe a ffurflenni cais newydd a diwygiedig ar draws yr holl gyfundrefnau Trwyddedu Amgylcheddol, rhywogaethau ac adnoddau dŵr. O 1 Ebrill, bydd gennym wybodaeth am ffioedd ar y wefan ar gyfer pob cyfundrefn ochr yn ochr â’r cynnwys arall ar gyfer y we yn y maes hwnnw, a fydd, gobeithio, yn sicrhau y gall defnyddwyr ddod o hyd iddo’n haws a chyfrifo eu ffioedd heb orfod mynd drwy ddogfen Cynllun Codi Tâl y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.

Cafodd Sam gyfarfod da iawn gyda’r tîm trwyddedu gwastraff, gan gyflwyno 6 phrototeip ar gyfer ceisiadau a chael eu hadborth cychwynnol. Byddai gweld eu ffurflenni a’u canllawiau papur mewn ffordd wahanol, fel taith ddigidol, wedi gallu bod yn sioc. Ond croesawyd y ffurf newydd yma gan y tîm ac roedd ganddyn nhw rai syniadau gwych ar gyfer sut y gallen ni ddatrys rhai o’r problemau sy’n weddill o ran defnyddwyr. Fe ddywedon nhw hefyd eu bod yn teimlo y byddai’r gwasanaeth digidol yn gwella pethau iddyn nhw ac i ddefnyddwyr. Byddan nhw’n adolygu’r cynnwys dros yr wythnos nesaf ac yn ein helpu i gywiro unrhyw wallau.

Mae wir yn teimlo fel y byddwn ni’n gallu parhau i gydweithio’n gadarnhaol. Fel hyn, gallwn ni wneud newidiadau lle bo angen mewn achosion lle nad yw’r gwasanaeth yn gweithio. Wrth i bethau dawelu eto ar ôl lansio’r Adolygiad Strategol o Godi Tâl, mae’n ddi-os y byddwn ni’n darganfod gwelliannau y gallwn ni eu gwneud i gynnwys y we a ffurflenni cais a bydden ni’n annog unrhyw un i gysylltu os ydyn nhw’n sylwi ar unrhyw gamgymeriadau cyffredin sy’n cael eu gwneud gan ddefnyddwyr - fel arfer gallwn ni ddod o hyd i ffordd i helpu.

Diolch i’r Tîm Cyfieithu am gamu i’r adwy gyda’r gwaith rydyn ni wedi’i anfon atoch chi. Bydd cwblhau’r gwaith hwn hefyd yn golygu bod yr holl ffurflenni cais ansawdd dŵr bellach ar ffurf electronig ac felly’n hygyrch i ddefnyddwyr a chanddynt anableddau. Mae Andrew wedi gweithio’n ddiflino i greu, diwygio a gwella’r ffurflenni hyn gan ddefnyddio adborth gan ddefnyddwyr a’r adran drwyddedu. Rhwng popeth, fe ddaethon ni o hyd i amser ddydd Llun i fynd i’r Amwythig i gwrdd wyneb yn wyneb a siarad am lwyddiannau, problemau a chwestiynau. Diolch i Catrin am gymryd yr amser i ymuno â ni. Aethon ni i gael cwpwl o ddiodydd yn y Loggerheads wedyn (tafarndai eraill ar gael) cyn mynd am bizza yn Oil and Dough (peidiwch hyd yn oed ag ystyried mannau pizza eraill).

Nodiadau post-it Amser am bizza

Mae Phil a’r tîm o DXW wedi bod yn gweithio ar gynnwys sy’n ymwneud â dalgylchoedd afonydd sy’n sensitif i asid yr wythnos hon. Mae Phil hefyd wedi diweddaru cynnwys ar y wiwer lwyd ar ein gwefan gan y bydd hwn yn dod yn bwnc llosg cyn bo hir, oherwydd newidiadau mewn deddfwriaeth.

Ym myd ymchwil defnyddwyr, roedd wythnos James yn cynnwys:

  • dau ddiwrnod a hanner o gwrs dylunio gwasanaeth gyda Lucinda
  • trefnu cyfweliadau â defnyddwyr ynghylch dechrau gweithio gyda CNC
  • gwneud y paratoadau i gyflwyno’r Map Perygl Llifogydd a’r Map Erydu Arfordirol ar eu platfformau newydd yr wythnos nesaf
  • cyfarfod â Defra i drafod ymchwil defnyddwyr ynghylch ‘Cael trwydded gwialen bysgota’ yn Gymraeg

Mae Sophie a Laura wedi bod yn brysur yn gwneud archwiliad o’r holl gynnwys cyfathrebu sydd gennym. Maen nhw wedi bod yn dad-gyhoeddi cynnwys nad oes ei angen mwyach a byddan nhw’n siarad â’r tîm am y camau nesaf.