Nodiadau wythnos 24/02/2023
Paratoi at wawr newydd
Mae mis Mawrth bob amser yn fis prysur, gan ei fod yn arwain at y diwrnod hudolus hwnnw - Ebrill y cyntaf. Na, nid Diwrnod Ffŵl Ebrill, ond diwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol newydd i nifer o sefydliadau - gan gynnwys ein sefydliad ni.
Wrth i’r cyfnod newydd hwn agosáu, mae’r ymdeimlad o frys yn cynyddu. Mae pawb yn hynod o brysur ac mae Heledd yn ceisio blaenoriaethu ffyrdd o rannu ein cynlluniau a’n blaenoriaethau ag eraill a darganfod mwy o ddulliau o wneud hynny.
Allwn ni ddim gwneud popeth - ac rydym yn sicrhau fod gofal yn cael ei roi i les pawb. Cymryd egwyl amser cinio, ein hawr les wythnosol a chymryd diwrnod i ffwrdd nawr ac yn y man yw’r peth pwysicaf.
Materion rheoli’r gyllideb
Bu Heledd yn brysur gyda materion ariannol, e.e.:
- Gwaith cyllid diwedd blwyddyn. Gofalu fod y gwaith o gyllidebu, anfonebu a thalu popeth yn cael ei gwblhau erbyn terfynau amser critigol a rhoi’r flaenoriaeth i hynny.
- Cynllunio cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf (1 Ebrill ymlaen) - sydd hefyd yn golygu ceisio cael cadarnhad o ba waith y gallwn gynllunio ar ei gyfer ac ymrwymo iddo’r flwyddyn nesaf.
Er gwybodaeth, nid yw treulio oriau rif y gwlith yn ymdrin â thaenlenni a systemau ariannol yn un o hoff sefyllfaoedd Heledd.
Gwneud lle ar gyfer Cynllun Corfforaethol newydd
Bob ychydig o flynyddoedd, fel y rhan fwyaf o sefydliadau, rydym yn adnewyddu ac yn adolygu ein blaenoriaethau sefydliadol - gwaith dylanwadol pwysig sy’n gosod y cyfeiriad ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn defnyddio hyn fel cyfle i gael ein cyfnod Marie Kondo ar gyfer yr adran ‘Amdanom ni’ ar y wefan. Nid yw’r cynnwys hwn yn rhoi tamaid o lawenydd, ac yn waeth na hynny, dyma’r math o gynnwys sy’n llesteirio’r gwaith chwilio wrth i ddefnyddwyr geisio cwblhau tasg.
Mae Sophie wrthi’n gweithio gyda Louise (Dylunydd Cynnwys o DXW) er mwyn cwblhau’r hyn ydyn ni’n mynd i’w gadw / mynd i gael gwared ohono, yna’n fuan iawn wedyn byddwn yn dechrau taro’r botwm ‘dad-gyhoeddi’.
O ran y fewnrwyd, mae Kim yn credu ei bod wedi dileu mwy na 1,000 o dudalennau yn barod. Tybed a fyddwn ni’n llwyddo i ostwng fymryn ar ein hôl troed carbon yn ystod y broses hon.
Diweddaru Ffioedd
Fel y dywedodd Shaun ac eraill yn nodiadau’r wythnosau diwethaf, rydym yn disgwyl llawer o newidiadau i ffioedd erbyn 1 Ebrill.
Mae’r tîm yn anhygoel am ymchwilio i’r manylion ac am ofyn y cwestiynau y mae defnyddwyr yn debygol o’u gofyn, sydd wedyn yn gallu achosi mwy o giwiau i’n cydweithwyr sy’n derbyn ceisiadau.
Mae ‘na lawer i’w wneud cyn ac ar ôl mis Ebrill. Ond yr wythnos hon fe wnaethon ni ddechrau cynnal sesiynau dal-i-fyny mwy rheolaidd (arddull stand-yp) er mwyn i ni allu rhannu cynnydd yn agored a chanfod atebion yn gyflym - ceisio gweithio mewn ffordd fwy ystwyth gyda Thîm SRoC.
Adborth gwych yn dilyn hyfforddiant gan Christine
Yr wythnos hon oedd diwedd ail rownd hyfforddiant Cyflwyniad i ysgrifennu cynnwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yng nghwmni Christine (o Crocstar).
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Christine (a chriw o DXW, Basis a Fourthwall Content) am ychydig dros flwyddyn fel rhan o waith ehangach sy’n gysylltiedig â strategaeth cynnwys.
Ein nod oedd cynyddu ymwybyddiaeth o gynnwys da fel bod pawb yn elwa – boed rhywun yn ysgrifennu adroddiad technegol ei hun, neu’n gweithio gyda dylunydd cynnwys yn y Tîm Digidol.
Mae amseriad yr hyfforddiant, gyda’r Llawlyfr cynnwys a chyhoeddi yn mynd yn fyw, yn teimlo fel ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn dros y misoedd diwethaf wrth helpu cydweithwyr i ddeall beth yw pwrpas y wefan.
Rydw i’n teimlo hefyd bod gwerthfawrogiad cynyddol o’r hyn mae ein tîm yn ei wneud - sy’n deimlad gwirioneddol anhygoel!
Os ewch chi lawr am dro i’r coed …
Mae Phil wedi bod yn debyg iawn i Miss Marple yr wythnos hon. Gwneud gwaith ditectif i ddeall beth yn union mae ein tudalennau coedwigaeth a’r atodiadau yn gynnwys. Dechreuodd gyda’r dudalen ‘dalgylchoedd sy’n sensitif i asid’.
Cymerodd gryn amser a llawer o waith ditectif i ddeall y broses hon. Mae wedi bod yn ceisio deall pa dasg sydd angen i ddefnyddiwr ei gwneud ar bob tudalen (ddim mor hawdd ag y byddech chi’n meddwl).
Dyma esiampl:
Mae’r dudalen gyfredol yn dweud:
Mae Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) yn gosod safon ar gyfer rheoli coedwigoedd mewn dull cynaliadwy. Mae ganddo saith canllaw cysylltiedig, ac yn ôl y Forests and Water Guidelines (F&WG) (Forestry Commission, 2011) (cyhoeddiad y DU yn Saesneg yn unig) mynnir bod asesiad o gyfraniad coedwigaeth i asideiddio a’r broses adfer yn cael ei wneud, mewn dalgylchoedd o ardaloedd dyfrol sy’n agored i asideiddio. Roedd y gofyniad hwn i’w gael ym mhedwerydd rhifyn F&WG (2003) ond ni ddarparwyd manylion ar sut i weithredu agweddau arbennig o’r asesiadau.
Yr hyn y dylem fod yn ei ddweud i helpu ein defnyddwyr i gwblhau’r dasg yw:
Gall coed effeithio ar asideiddio dŵr. Mae’n bwysig sicrhau nad yw asideiddio afonydd a nentydd yn gwaethygu drwy dorri coed.
Cysylltwch â ni i ddarganfod a yw eich cais i gwympo coed mewn ardal sydd ‘mewn perygl’ o asideiddio neu sydd wedi ‘methu’.
Os yw eich cais cwympo coed yn methu yn y gwiriad asideiddio, ni fyddwn yn gallu rhoi trwydded gwympo coed i chi.
Mae’r gwaith ditectif ar un dudalen wedi’i gwblhau, a dim ond 20 tudalen arall i fynd.
Didoli cardiau
Llwyddodd yr anhygoel James i gynnal ymarfer didoli cardiau yr wythnos hon.
Roedd yn defnyddio meddalwedd o’r enw ‘Tree Jack’. Anfonodd ein defnyddwyr o’r wefan bensaernïaeth yr wybodaeth goedwigaeth newydd.
Mae Tree Jack yn ein helpu i brofi pa mor hawdd yw hi i’n defnyddwyr ddod o hyd i gynnwys ar ein gwefan. Mae’n ein helpu i ddeall beth yw barn ein defnyddwyr o hierarchaeth cynnwys ar ein safle. Yna mae’n gadael i ni brofi, iteru a chadarnhau ein pensaernïaeth wybodaeth.
Arweiniodd Tree Jack at ganfyddiadau diddorol iawn a throdd James y canfyddiadau hyn yn adroddiad. Yna, buom wrthi’n meddwl, ac yn ail-weithio ar deitlau’r tudalennau, fel eu bod yn canolbwyntio mwy ar y dasg. Mae James bellach wedi anfon fersiwn wedi’i diweddaru at restr o bobl sy’n defnyddio ein gwefan, er mwyn casglu mwy o adborth i brofi ein strwythur newydd arfaethedig ar gyfer adran goedwigaeth ein gwefan.
Pethau eraill a wnaethon ni
- Mae Sophie wedi bod yn edrych ar ein datganiad hygyrchedd i sicrhau ei fod yn gyfredol.
- Mae Andrew yn dal i ddyfal doncio ar y ffurflen rywogaethau