Wythnos brysur arall, lle llwyddodd ambell un ohonom i weld ein gilydd yn y cnawd.

Mae gennym ni safonau

Aeth Lucinda, Heledd a Shaun am daith foreol i M-SParc ar Ynys Môn i fynychu digwyddiad Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru ar wreiddio safonau digidol cyffredin mewn sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru.

Llwyddodd staff M-SParc i osgoi crybwyll y ffaith bod Shaun wedi eu hanfon i redeg ar ôl cysgod yr wythnos flaenorol drwy gyrraedd saith diwrnod yn rhy fuan ar gyfer y digwyddiad.

Mae’r safonau gwasanaeth digidol yn nodi’r hyn a ddisgwylir wrth ddylunio a rheoli gwasanaethau digidol. Mae 12 i gyd ond roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion defnyddwyr, ar ôl grymuso perchnogion gwasanaethau a thimau amlddisgyblaethol.

Mae llawer ohonom wedi edrych i safonau Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU ers blynyddoedd, yn enwedig ar gyfer dylunio cynnwys ac ymchwil defnyddwyr, ond mae’n ddigon buan o hyd i’r rhan fwyaf o sefydliadau yng Nghymru fabwysiadu a dechrau gweithio i safonau cyson. Y bwriad gyda’r gweithdai hyn (a gynhaliwyd hefyd yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin yr wythnos ddiwethaf) yw cael adborth ar y canlynol:

  • ymwybyddiaeth gyfredol o’r safonau
  • enghreifftiau lle rydym yn defnyddio’r safonau
  • beth sydd ei angen arnom gan Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru i helpu ein sefydliad i fabwysiadu’r safonau yn ymarferol

We had great discussions with people from Welsh Government, CDPS, and Anglesey council. Credit: CDPS

Cawsom drafodaethau gwych gyda phobl o Lywodraeth Cymru, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, a Chyngor Sir Ynys Môn. Cydnabyddiaeth: Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru

Daeth rhai themâu cyffredin i’r amlwg o’r trafodaethau, gan gynnwys yr angen am ymchwil defnyddwyr i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion defnyddwyr. Ymchwil defnyddwyr yw’r cam cyntaf tuag at greu gwasanaethau digidol sy’n hawdd eu darganfod a’u defnyddio – mae’n llywio popeth sy’n dod ar ei ôl ac yn sicrhau ein bod yn rhoi’r defnyddiwr wrth wraidd sut rydym yn dylunio ein gwasanaethau. Roedd yn galonogol (neu’n ddigalon?) fod bron pawb yn teimlo bod cael perchnogion gwasanaethau wedi ‘grymuso’ ymhell i ffwrdd i’r rhan fwyaf o sefydliadau, ac yn aml mae timau digidol yn ysgwyddo llawer o’r cyfrifoldebau am geisio sefyll dros ein defnyddwyr.

Roedd yn wych cwrdd â rhai o dîm Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru yn y cnawd – ar ôl llawer o sgyrsiau ar-lein dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fe wnaethom hefyd fwynhau rhannu profiadau gyda’r rhai sy’n gweithio mewn timau digidol i fyny yng Ngogledd Cymru, ac rydym yn gobeithio am fwy o ddigwyddiadau yn y lleoliad trawiadol hwn eto yn fuan.

Wedi’i agor yn swyddogol yn 2018 fel parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru, mae M-SParc yn gartref i arloesedd a chyffro yng Ngogledd Cymru

Wedi’i agor yn swyddogol yn 2018 fel parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru, mae M-SParc yn gartref i arloesedd a chyffro yng Ngogledd Cymru.

Taliadau wedi’u diweddaru

Mae’r Adolygiad Strategol o Daliadau yn cyflwyno’r newidiadau mwyaf i’r ffordd yr ydym yn codi tâl am hawlenni a thrwyddedau ers i CNC ddechrau.

Mae gwaith ar gynnwys gwe i helpu defnyddwyr i ddeall ein taliadau (a newidiadau eraill sydd wedi’u cynllunio o dan raglen yr Adolygiad Strategol o Daliadau) wedi cynyddu’n gyflym. Rydym wedi canolbwyntio ar ansawdd dŵr, sylweddau ymbelydrol a gwastraff yr wythnos hon, gyda rhywogaethau wedi’u cynnwys ar gyfer yr wythnos nesaf.

Rydym hefyd yn gweithio ar ganllawiau cynnwys gwe ar gyfer Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd – maes sydd ar goll i raddau helaeth o’r wefan ar hyn o bryd ond sy’n effeithio ar ymgeiswyr yn y rhan fwyaf o gyfundrefnau.

Dysgwch fwy am y newidiadau arfaethedig i godi tâl a thrwyddedu o’r dogfennau ymgynghori ar Citizen Space.

Dechrau gwasanaeth rhybuddio am lifogydd newydd

Gwahoddwyd Heledd a James i weithdy deuddydd gyda chydweithwyr ym maes TGCh a llifogydd, yn swyddfa BJSS, y cwmni a fydd yn cefnogi CNC i ddatblygu’r gwasanaeth wedi’i ailwampio hwn.

Mae’n ddigon buan, ond roedd yn wych rhwydweithio a chael cyfle i rannu ein profiad a’n cyngor a gwneud yn siŵr bod dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a’r Gymraeg yn cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf.

Mae James wedi gwneud llawer o waith i helpu’r tîm i baratoi ar gyfer hyn, gan gynnwys ymchwil defnyddwyr gyda defnyddwyr presennol y gwasanaeth. Gwnaeth rai prototeipiau cychwynnol hefyd, a fydd nawr yn cael eu trosglwyddo i’r criw yn CNC a BJSS i fynd i’r afael â hwy.

Martin yn siarad am y sgriniau drafft a ddechreuodd James ar gyfer y gwasanaeth rhybuddio am lifogydd newydd

Martin yn siarad am y sgriniau drafft a ddechreuodd James ar gyfer y gwasanaeth rhybuddio am lifogydd newydd.

Dechreuodd Diwrnod 1 gydag adran llifogydd CNC yn sôn am y weledigaeth ar gyfer y rhybuddion llifogydd, a’r cyd-destun ar gyfer y gwasanaeth hollbwysig hwn. Yn y prynhawn, rhannodd BJSS ei ddull arfaethedig - gyda throsolwg gwych o werth ymagwedd ystwyth at ddatblygu er mwyn helpu i leihau risg.

Mae’n wych gweld pawb yn gytûn ynglŷn â gweithio mewn ffordd ystwyth, a ffocws mawr ar ddefnyddwyr – gan gynnwys ei gwneud yn hawdd i staff ddefnyddio’r system.

Edrychwn ymlaen at weld sut bydd hyn yn datblygu, ac mae James a Manon o’r tîm cyfieithu yn debygol o weithio gyda’r criw i helpu gyda dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a chynnwys dwyieithog, dros y misoedd nesaf.

Dangos a dweud

Dangos a dweud

O’r tu mewn i fwth o’r enw Stacey, cyflwynodd Heledd sesiwn ‘dangos a dweud’ fisol newydd ein tîm.

Y mis hwn, buom yn canolbwyntio ar y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud y tu ôl i’r llenni, megis y ffurflen gais am gynnwys, y cynnig gwefan, ac offer eraill yn ein llawlyfr cynnwys a chyhoeddi.

Er gwaethaf teimlo braidd yn anghyfforddus yn cyflwyno o flwch yng nghanol cyfarfod arall, rydym yn meddwl ei fod wedi mynd yn dda, ac edrychwn ymlaen at rannu mwy gyda chydweithwyr yn y sesiynau sydd i ddod.

Pethau eraill a wnaethom

Daeth Sam, Laura, Sophie a Lucinda at ei gilydd i drafod ein cronfa o syniadau ar gyfer gweithio yn yr awyr agored. Rydym wedi penderfynu dechrau ysgrifennu ychydig o bostiadau blog, ac unwaith y byddwn yn barod, byddwn yn cyhoeddi ar wefan CNC, ac yn dechrau rhannu ym mhobman!

Mae mathau o gynnwys yn edrych yn dda, gyda dim ond cwpl o rai hynod fler ar ôl nawr.

Ymunodd Heledd â chyflwyniad gwych gyda Jeremy Evas, o’r enw ‘Peidiwch â gwneud i mi feddwl’ – gan rannu tystiolaeth ac enghreifftiau ymarferol o ble mae angen i ni gael gwared ar rwystrau er mwyn galluogi mwy o bobl i gael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg ar-lein.

Mae Kim ac Owain wedi dechrau “difa mawr y fewnrwyd”, sy’n golygu dileu cannoedd o dudalennau, a rhai delweddau diddorol ar hyd y ffordd.