Nodiadau wythnos 03/02/2023
Mewn chwinciad llygad llo, mae hi’n fis Chwefror. I ble’r aeth mis Ionawr? Rwy’n croesi fy mysedd am i ni gael profi dyddiau cynhesach o’n blaenau. Mae wedi bod yn newyddion da serch hynny i’n timau llifogydd sydd, o’r diwedd, wedi cael seibiant o’r holl dywydd gwlyb ’ma.
Wel… beth sydd wedi bod yn digwydd yr wythnos hon yn y tîm digidol.
Sonarr
Mae James wedi bod yn dadansoddi cyfweliadau defnyddwyr er mwyn helpu i lunio Sonarr 2025 (Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol). Mae e wedi siarad â 6 defnyddiwr o:
- Llywodraeth Cymru
- Dŵr Cymru
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- RSPB Cymru
- Timau CNC sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae adborth defnyddwyr am Sonarr yn debyg i’r hyn a glywn am wasanaethau eraill CNC:
- Caiff Sonarr ei ysgrifennu i ateb dyletswyddau deddfwriaethol ar CNC ac nid tasgau defnyddwyr
- Mae defnyddwyr yn gweld ei fod yn cymryd llawer o amser ac yn beth llafurus i echdynnu’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a’u bod yn gorfod agor pob pennod a chwilio am eiriau â llaw yn aml
- Prin yw’r defnyddwyr sydd angen tystiolaeth ar lefel Cymru gyfan
- Mae’n anodd dod o hyd i dystiolaeth ar lefel awdurdod lleol neu ranbarthol
- Mae CNC yn cadw llawer o ddata rhanbarthol perthnasol ond nid ydym yn cyfeirio pobl ato yn Sonarr
- Mae’r negeseuon allweddol yn cael eu colli mewn strwythur naratif yn lle cael eu nodi mewn pwyntiau bwled
- Mae pobl eisiau i CNC fod yn fwy hyderus wrth ddweud: “Er mwyn adfer bioamrywiaeth dyma sydd angen digwydd xxx”
Arolwg ‘Sut i gydymffurfio â’ch trwydded amgylcheddol’
Mae James wedi creu arolwg er mwyn casglu adborth ar sut mae pobl yn defnyddio’r canllawiau ‘Sut i gydymffurfio â’ch trwydded amgylcheddol’.
Mae hwn wedi ei anfon at tua 800 o gysylltiadau diwydiant a dylai fod o gymorth i ddangos sut mae pobl yn defnyddio’r canllawiau, beth yw eu pwyntiau poen ac a yw’n diwallu eu hanghenion fel defnyddwyr.
Yna gallwn gynnal cyfweliadau defnyddwyr er mwyn treiddio i ddyfnder y themâu hyn.
Mae’n beth da pan ddaw cynllun at ei gilydd
Rydym wedi bod yn brysur iawn yn gweithio er mwyn gwella cynnwys yr adran coetiroedd a choedwigoedd ar ein gwefan. Gyda’n cynnig o ran gwefan newydd a’n hoffer yn ein llawlyfr cyhoeddi Cynnwys cynyddol, mae’n teimlo fel pe baem wedi’n harfogi’n dda nawr ar gyfer y dasg sydd o’n blaenau!
Y dasg yr wythnos hon oedd gosod cynllun yn ei le. Roedd yn rhaid i ni ddarganfod beth oedd yn digwydd gyda phob darn o gynnwys.
Ein cenhadaeth yw creu cynnwys sy’n canolbwyntio ar dasgau. Mae blynyddoedd ers i’r maes hwn gael ei weddnewid. Mae gennym dudalennau hen ffasiwn, ac nid yw’r cynnwys yn hygyrch nac yn gynhwysol iawn.
Dechreuom ni ar y darn hwn o waith trwy gynnal cyfarfod cynhyrchiol iawn gyda’n harbenigwyr pwnc. Roedd yr arbenigwyr yn dod o’r timau coedwigaeth, rhywogaethau a thrwyddedu cwympo coed. Nod y cyfarfod oedd cael eu hadborth ar strwythur newydd y tudalennau rheoli coetir a thrwyddedau.
Cawsom adborth da, diolch i bawb a gymerodd ran. Nawr, gan bod gennym y wybodaeth werthfawr hon, y cam nesaf yw creu pensaernïaeth gwybodaeth.
Y wyddoniaeth y tu ôl i strwythuro cynnwys
Mae pensaernïaeth gwybodaeth yn ymwneud â helpu pobl i ddeall eu hamgylchedd a dod o hyd i’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano, yn y byd go iawn yn ogystal ag ar-lein.
Mae arwyddion mewn meysydd awyr, a mapiau llywio’r tiwb yn enghreifftiau gwych o bensaernïaeth gwybodaeth yn y byd go iawn. Mae’r ddeubeth yn helpu pobl i ddeall ble maen nhw, beth sydd o’u cwmpas, a beth i’w ddisgwyl.
Mae hanes pensaernïaeth gwybodaeth yn mynd mor bell nôl i’r gorffennol â’r hen Aifft. Rhestrodd llyfrgellwyr yn llyfrgell Alexandria gynnwys y llyfrgell ar lyfryddiaeth 120-scroll. Mae’r egwyddor yr un peth, ond doedd mo’r Eifftiaid yn ei galw’n bensaernïaeth wybodaeth, synnwyr cyffredin oedd hyn.
Ar ôl hynny, roedd pethau’n dawel o ran pensaernïaeth gwybodaeth, nes i’r rhyngrwyd ddod i’n rhan a newid popeth.
Mae angen i ni newid saernïaeth gwybodaeth ein gwefan gyfan. Mae angen i ni ei gwneud hi’n haws i’n defnyddwyr ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano. Er hynny, dechrau’n fach rydym ni ar hyn o bryd gan wella’r adran coedwigaeth a choetiroedd yn unig.
Unwaith y bydd gennym ein pensaernïaeth gwybodaeth coedwigaeth a choetiroedd newydd sbon yn ei lle, gallwn ddechrau gweithio ar y dasg o wella’r cynnwys. Yna bydd James yn cymryd y saernïaeth gwybodaeth newydd ac yn profi’r strwythur gyda’n staff a’n defnyddwyr allanol.
Gwyliwch fan yma am ddiweddariadau pellach ar y prosiect hwn.
Gwefan gwbl hygyrch
Ar 23 Medi 2018 daeth rheoliadau hygyrchedd newydd i rym a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff sector cyhoeddus gael gwefan hygyrch.
Mae Sophie a Kim wedi bod yn gweithio trwy ffeiliau PDF y drwydded adar. Maen nhw wedi bod yn troi’r PDFs yn dudalennau HTML hygyrch. Mae cael y tudalennau hyn fel tudalennau HTML cwbl hygyrch a chynhwysol yn ei gwneud hi’n haws i bawb ddeall a defnyddio’r cynnwys ac nid yw’n gwahaniaethu yn erbyn neb.
Mae ein gwefan bellach bron yn gwbl hygyrch, ond mae gyda ni bethau sy’n dal angen eu gwneud. Nid yw’n 100% hygyrch. Mae gyda ni rai ffurflenni Microsoft Word, ffeiliau Excel a PDFs sy’n dal heb fod yn hygyrch nac yn gynhwysol.
Rydym ni’n mynd i edrych eto ar ein datganiad hygyrchedd a cheisio gwella hyd yn oed mwy o bethau ar ein gwefan. Nid ydym am wahaniaethu yn erbyn unrhyw un, felly mae ein gwaith yn parhau er mwyn creu gwefan sy’n gwbl hygyrch.
Ffurflenni ffab
Mae Andrew a Shaun wedi dechrau diweddaru detholiad o ffurflenni ar-lein gollwng dŵr. Mae angen llawer o waith diweddaru ar y ffurflenni hyn. Mae’r ffurflenni’n amrywio o newid trwydded i ffurflenni gollwng dip defaid. Rydym yn creu ffurflenni newydd a hoffem ddiolch i Dave Jones am ei holl gefnogaeth a’i arweiniad gyda’r rhain.
Hefyd, ar y rhestr o ffurflenni ar-lein i’w diwygio mae ffurflenni naw rhywogaeth a ffurflen trwydded morloi newydd ar-lein.
Prosiect caniatâd
Ar ôl llawer o waith paratoi, o’r diwedd roedd yn bryd i Sam, Lucinda, Laura a Heledd gyflwyno eu sioe ac adrodd am y prosiect caniatâd. Edrych ar sut mae pobl yn cyflwyno cais i wneud rhywbeth ar dir CNC. Er enghraifft, cynnal digwyddiad rhedeg neu drefnu ysgol goedwig. Mae hyn yn dilyn ymlaen o’r gwaith a wnaethant yn yr arbrawf labordy Learn by Making CDPS. Gwnaethon nhw gyflwyno i Bennaeth yr Adran Stiwardiaeth Tir a’r Arweinydd Tîm ar gyfer Cynllunio Hamdden Ystadau ac roedd y rhain yn gefnogol iawn i’r gwaith a rhoddwyd sêl bendith er mwyn i’r gwaith barhau.
Cododd Sam eu bwrdd Trello ar unwaith ac maen nhw’n bwrw ati, yn mapio teithiau defnyddwyr ar gyfer y chwe ffurflen gais sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Dwy awr o gyngor am ddim
Mae Lucinda, Sam, Kim, a Phil yn parhau i fapio’r hyn sydd ar y wefan ar hyn o bryd ynglŷn â’r broses cyn ymgeisio/dwy awr o gyngor am ddim.
Mae’n dod yn amlwg nad yw’r wybodaeth ar ein gwefan am y broses cyn ymgeisio yn gyson ac yn sicr nid yw’n hawdd ei defnyddio.
Rydym ni’n mynd i barhau i gywain gwybodaeth am y gwahanol wasanaethau rydym ni’n eu cynnig, beth yw’r enw sydd wedi ei roi ar bob un ohonyn nhw, a beth yw’r broses i’n defnyddwyr. Mae Sam yn rhoi arddangosiad i ni yr wythnos hon o ganfyddiadau’r ymchwil defnyddwyr mewnol.
Rhai pethau eraill rydym ni’n eu gwneud
Mae Sophie wedi bod yn cynnal llawer o wiriadau hygyrch ar yr ôl-groniad o adroddiadau morol.
Cyhoeddodd Sam sut rydym yn ysgrifennu ar gyfer canllawiau’r we yn ein llawlyfr cynnwys a chyhoeddi.