Pren!

Y llynedd, fe dreulion ni lawer o amser yn trio gwella’r adran creu coetir ar ein gwefan. Dydy pethau ddim wedi bod yn hawdd, ond fe lwyddon ni yn y diwedd. Felly nawr mae’n bryd rhoi gwedd newydd i’r adran rheoli eich coetir.

Ein nod yw creu cynnwys sy’n canolbwyntio ar dasgau. Dydyn ni ddim wedi adnewyddu’r adran hon ers blynyddoedd. Mae yna dudalennau sydd wedi dyddio, a dydy’r cynnwys ddim yn hygyrch nac yn gynhwysol iawn.

Rydyn ni’n ffodus yn y tîm digidol ein bod yn gweithio gyda chontractwyr mor hyfryd i’n helpu i reoli’r darn hwn o waith. Y tîm sy’n gwella ein cynnwys coedwigaeth ar y we yw Heledd, James, Rob, Isobel, Christine, Louise a fi, Phil.

Mae’r adran rheoli eich coetir yn ymwneud â chlefydau coed, rheoli coed a gwneud eich coetir yn fwy gwydn yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gennym hefyd adran ar warchod ein bywyd gwyllt gwerthfawr yn ystod unrhyw waith yn y goedwig.

Bydd cael cynnwys cyfredol sy’n canolbwyntio ar dasgau ac yn cefnogi anghenion defnyddwyr yn helpu ein pobl i ofalu am eu coed a’u coedwigoedd am flynyddoedd i ddod.

Ymchwil defnyddwyr: coed, trwyddedau a CNC

Fe wnaeth James, ein hymchwilydd defnyddwyr, gychwyn yr wythnos newydd drwy gyflwyno canfyddiadau ymchwil defnyddwyr ym maes cwympo coed.

Rhoddodd un ar ddeg o ddefnyddwyr, a gafodd eu cyfweld am awr yr un, syniad o sut beth yw’r broses o wneud cais am drwydded i gwympo coed.

Fel pobl sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, rydyn ni wrth ein bodd â’r sesiynau hyn - ac yn yr un hon fe wnaethon ni ddysgu llawer.

Yr hyn wnaeth ein taro oedd bod gan y rhan fwyaf o’r defnyddwyr hyn berthynas drafodol â CNC:

  • maen nhw’n mynd yn syth at y ffurflen gais ar gyfer trwydded cwympo coed ac yn trio gweithio allan beth i’w wneud o’r fan honno
  • maen nhw’n tueddu i beidio â defnyddio canllawiau cyffredinol; maen nhw eisiau offer ymarferol a gwybodaeth sy’n benodol i’w tasg
  • roedd llawer o gynnwys yn amharu ar eu gallu i gwblhau’r dasg

Mae James hefyd wedi adrodd y canfyddiadau wrth y tîm cwympo coed.

Pryd bynnag y byddwn yn ymchwilio gyda defnyddwyr, yr un pethau sy’n cael eu dweud am ein gwefan. Mae gormod o fanylion, iaith aneglur, cynnwys neu ganllawiau amwys ac mae’n anodd llywio o un lle i’r llall.

alt text

Creu ar y cyd

Rydyn ni’n mynd i’r arfer o greu ar y cyd.

Gan ddefnyddio Mural, rydyn ni’n casglu ein syniadau am straeon i’w hadrodd mewn nodiadau ar gyfer yr wythnos, blogiau a sesiynau dangos a dweud. Rydyn ni’n storio pethau cofiadwy - delweddau, dyfyniadau, sleidiau rydyn ni am eu defnyddio.

alt text

Gyda chynllun hyblyg ar gyfer pwy sy’n gweithio ar nodiadau’r wythnos bob wythnos, rydyn ni’n ysgrifennu mewn parau i helpu ein gilydd.

Ar ôl ychydig o fwlch, rydyn ni’n ailgydio yn ein sesiynau dangos a dweud fel tîm y mis nesaf. Os hoffech chi gael gwahoddiad yn eich calendr, llenwch y ffurflen fer hon i gael gwahoddiad i’n sesiynau dangos a dweud.

Ac rydyn ni’n paratoi sesiwn dangos a dweud ar gyfer arbenigwyr pwnc ar y caniatâd i wneud rhywbeth ar dir CNC, gan weithio gyda’r Learn by Making Lab. Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen â’r gwaith hwn i ddatrys problemau i ddefnyddwyr.

Rhai pethau eraill rydyn ni’n eu gwneud

Mae Sam, Laura a Lucinda yn gweithio ar fathau o gynnwys.

Mae Kim wrthi’n mireinio canllawiau ar sut i greu dogfennau hygyrch. Mae Owain wedi cadarnhau eu bod yn gweithio i bawb gyda darllenydd sgrin.

Mae CNC yn adolygu ei gynllun corfforaethol a rhoddodd Shaun, James a Phil adborth.

Mae Sophie wedi dechrau archwilio’r adran Amdanom ni ar y wefan - mae’n waith swmpus. Ein nod yw symleiddio’r adran hon cyn i’r cynllun corfforaethol newydd ddechrau ym mis Ebrill.

Mae cydweithwyr yn defnyddio’r ffurflen gais newydd ar gyfer cynnwys. Gobeithio nad ydyn nhw’n ymwybodol o’r llif pysgodlyd sy’n sail iddi. Mae’r fformat newydd yn ein helpu i reoli a blaenoriaethu gwaith sy’n dod i mewn yn well.

Mae Lucinda wedi bod yn gweithio’n galed yn diwygio ein bwrdd cynllunio cynnwys ac yn tagio’r holl waith newydd sy’n dod i mewn i’r tîm digidol. Mae’r tagiau fel: gwiriad hygyrchedd, cynnwys sy’n canolbwyntio ar dasgau a diweddariadau ar brosiectau yn cyd-fynd â’r meysydd yn ein ffurflen gais ar gyfer cynnwys. Bydd y tagiau newydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu ein gwaith.