Blwyddyn newydd a datblygiadau newydd!

Ar ôl cryfhau ein tîm (helo Kim a Sophie!) rydyn ni wedi cael amser i weithio ar gyhoeddi ein llawlyfr ar gynnwys a chyhoeddi. Rydyn ni wedi dechrau gyda’n canllaw arddull A-Z a dolen i nodiadau’r wythnos ar GitHub; bydd canllawiau ar sut i ysgrifennu dogfennau hygyrch yn dilyn yn fuan.

Mae’r canllaw arddull a’r canllawiau ar ddogfennau hygyrch wedi bod yn ddogfennau PDF ar ein mewnrwyd hyd yn hyn, felly mae braidd yn anodd dod o hyd iddynt. Y risg yw bod pobl yn cadw eu copi eu hunain yn lleol ac yn parhau i weithio o’r copi hwnnw, gan golli diweddariadau pwysig neu’r fersiwn ddiweddaraf. (Yn union yr un fath â’n gwefan). Felly, gobeithio y bydd cydweithwyr yn gallu dod o hyd iddyn nhw a’u defnyddio’n haws, a bod yn hyderus eu bod yn gweithio o’r peth iawn.

Yn dilyn gwaith gwych gan Scroll ac yna Crocstar a FourWallsContent, byddwn yn cyhoeddi ein cynnig, ein hegwyddorion o ran cynnwys a’n mathau o gynnwys yn fuan. Rydyn ni’n brysur yn golygu, yn croesgyfeirio ac yn eu mireinio er mwyn eu cyhoeddi - byddwn ni’n parhau i’w hadolygu.

Llif hynod o bysgodlyd

Yr wythnos hon, fel rhan o waith i adnewyddu ein pecyn cymorth ar gyfer cynnwys y we, fe wnaethon ni gyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’n ffurflen gais ar gyfer cynnwys.

Rydyn ni’n cael llawer o geisiadau ac maen nhw’n amrywiol. Rydyn ni’n cyfarfod ddwywaith yr wythnos i flaenoriaethu’r ceisiadau, nodi’r hyn y gallwn ei wneud ar unwaith, beth sydd angen gwaith ychwanegol, ac (wrth gwrs) yr hyn na allwn ni ei wneud.

Gall hyn fod yn anodd. Mae ein gwefan, wel, yn bytiog. A gwell peidio â sôn am y fewnrwyd.

Felly, fe wnaethon ni dreulio cryn dipyn o amser yn ystyried gwahanol fathau o gynnwys a’r hyn y mae angen i ni ei wybod ar gyfer pob un. Beth sy’n ein harafu? Beth fyddai’n rhoi gwell syniad i ni o sut mae hyn yn effeithio ar ein defnyddwyr? Beth sydd angen i ni ei wybod i weithio’n effeithiol gyda thimau eraill?

Dyma gyflwyno’r pysgodyn cynnwys mawreddog (Lophiiformes caisamgynnwysus)

alt text

Mae ein pysgodyn yn dangos llif defnyddwyr newydd y ffurflen gais ar gyfer cynnwys. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn goleuo’r ffordd at geisiadau cliriach (ac ni fydd yn ysglyfaethu ar y rhai sy’n gwneud ceisiadau, addo!)

Ond wedi dweud hyn, rydyn ni’n mynd i orfod cadw llygad arno. Rydyn ni’n disgwyl gorfod addasu ei siâp yn y dyfodol. Rydyn ni eisoes wedi cael adborth gwych a byddwn yn gwylio sut rydych chi’n defnyddio’r ffurflen i weld sut y gallwn ni ei gwella yn y dyfodol.

Rhowch gynnig arni, cyflwynwch gais am gynnwys.

Offeryn creu tablau addawol

Dros y Nadolig fe wnaethon ni gyhoeddi diweddariadau i rai tablau chwiliadwy oedd wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan gan ddefnyddio templed yr offeryn tablau. Gwnaeth hyn inni feddwl pa mor ddefnyddiol yw’r offeryn creu tablau.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd angen i ni newid dogfennau Excel ar draws ein gwefan a gyflwynwyd gan CNC fel ‘cofrestrau cyhoeddus’ (mae’n ofynnol i CNC gyhoeddi manylion busnesau sy’n cael gwneud rhywbeth yn ôl y gyfraith, fel delio mewn metel sgrap). Roedd y dogfennau wedi’u hatodi wrth waelod tudalen we - anhygyrch, anodd dod o hyd iddynt, bron yn amhosib eu defnyddio ar ddyfais symudol. Roedden ni’n gwybod o’r adborth bod defnyddwyr yn ei chael yn anodd eu defnyddio.

alt text

Gyda’n tîm arbennig, aethon ni ati i fireinio gofynion yn ymwneud â thrin gwallau (mae’n rhaid i ni uwchlwytho ffeiliau csv sy’n hollol gywir), yr angen am ddwy iaith ac ychwanegu eitemau geiriadur i’r System Rheoli Cynnwys felly gall y tabl addasu i’r cynnwys. Llwyddon ni i greu rhywbeth defnyddiol iawn – yn gweithio ar ffonau symudol, haws dod o hyd iddo, hygyrch a llawer symlach i’w ddefnyddio. Y llynedd fe wnaeth 32% o ddefnyddwyr oedd angen gweld a oedd gan ddeliwr metel sgrap drwydded wneud hynny ar ffôn - ac ni chafwyd adborth negyddol gan ddefnyddwyr.

Defnyddion ni’r offeryn yn ddiweddar i gyhoeddi gwybodaeth at ddiben tryloywder ynghylch grantiau rydyn ni wedi’u dyfarnu a rhestr o fathau o wastraff ar gyfer gweithgareddau yr ydyn ni’n rhoi trwyddedau ar eu cyfer. Rydyn ni wedi gallu bodloni’r angen i gyhoeddi’r wybodaeth, ond dydyn ni ddim yn siŵr a ydyn nhw’n gweithio i ddefnyddwyr eto - byddwn ni’n cadw llygad ar Fapiau Gwres, Dadansoddeg ac adborth cwsmeriaid.

Rhai pethau eraill rydyn ni’n eu gwneud

Mae Lucinda’n cael hwyl arni gyda Figma. Mae Shaun wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr pynciau ar y broblem ddyrys o sut i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r ffi drwyddedu gywir ar gyfer y peth y maen nhw am ei wneud. Ac rydyn ni i gyd yn methu aros am sesiwn James ar ganfyddiadau ei ymchwil i ddefnyddwyr ym maes trwyddedau torri coed - mwy am hynny maes o law…

Ar hyn o bryd mae Heledd yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau gwych ar gyfer rhai swyddi newydd sbon ym maes digidol, data a thechnoleg.