Gwneud a dysgu

Daeth y fenter Dysgu trwy greu pethau: cyflwyno arbrawf i ben yr wythnos hon.

Roedd yn wyth diwrnod yn llawn siaradwyr gwadd arbenigol, yn archwilio problemau, yn braslunio, yn profi defnyddioldeb, yn llunio prototeip ac yn dangos a dweud am ambell brosiectau. Rydyn ni’n dal i gnoi cil ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr.

Dosbarth meistr Giles Turnbull

Rhoddodd Giles ddosbarth meistr gwych ar gyfathrebu ystwyth a sut i weithio’n glir, yn greadigol, ac yn agored.

Pan rydyn ni wedi ceisio gweithio nodiadau wythnos a blogiau yn agored yn y gorffennol rydyn ni wedi poeni am beth i’w ddweud a sut i’w ddweud. Ond anogodd Giles ni i wneud y canlynol:

  • bod yn ddewr
  • gwneud llai o gynllunio a mwy o gyhoeddi pan fydd gennym rywbeth i’w ddweud neu ei ddangos
  • ymlacio a pheidio â phoeni am swnio’n gorfforaethol – dim ond bod yn ni ein hunain
  • dangos y peth – casglu lluniau / sgrinluniau / dyfyniadau i ddangos i bobl

Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wir eisiau ei ymarfer a’i wneud yn rhan o’n gwaith bob dydd.

Cawson ni hyd yn oed gopi o’i lyfr ffantastig … felly dim esgusodion.

alt text

Gallwch chi ddarllen mwy am Giles - ewch ati!

Fe wnaethon ni brofi’r prototeip

Uchafbwynt arall yr wythnos hon oedd sesiwn profi defnyddioldeb – gweld defnyddwyr yn ceisio defnyddio ein gwasanaeth presennol a’r prototeip.

Gwnaethon ni nodiadau tra bu ein tri phrofwr yn siarad am eu profiadau o’r gwasanaeth ‘caniatadau’.

Dywedodd defnyddwyr fod y prototeip yn syml ac yn glir. Dywedon nhw eu bod yn hoffi cael gwybod p’un a oedd angen iddyn nhw wneud cais am ganiatâd. Roedd ganddyn nhw wahanol ddulliau o ddweud wrthyn ni ar ba dir yr oedden nhw am wneud rhywbeth, yn amrywio o gyfeiriadau grid i ‘What 3 Words’ ac roedden nhw’n hoffi’r syniad o fap rhyngweithiol.

alt text alt text

Ddim yn fodlon â chynnwys

Nododd y profion rai themâu cryf am y gwasanaeth presennol, yn eu plith:

  • bod y cynnwys yn rhy fanwl
  • bod y cynnwys yn canolbwyntio ar CNC yn hytrach na thasg y defnyddiwr
  • bod y broses bresennol yn rhwystredig, yn straen, yn feichus ac yn cymryd llawer o amser
  • dylai’r broses fod yn gymesur â’r dasg – nid yw ffilmio Mission Impossible ar dir CNC yr un peth â mynd am daith gerdded dywysedig, ac eto cânt eu trin yn yr un modd
  • bod pobl yn osgoi gofyn am ganiatâd gan CNC gan fod y broses yn rhy gymhleth

Drwy brofi ein prototeip, mae gennyn ni bellach rywfaint o dystiolaeth y gall cynnwys rhyngweithiol weithio’n dda i ddefnyddwyr. Mae’n rhoi atebion iddyn nhw yn gyflym. Gallen ni ailadrodd y prototeip hwnnw yn seiliedig ar yr hyn yr ydyn ni wedi’i ddysgu; dal ati i brofi a mireinio – mae’n ddull sydd â llawer o botensial i ddefnyddwyr CNC.

Pan rydyn ni wedi cynnal profion defnyddioldeb dros y pum mlynedd diwethaf, mae defnyddwyr wedi cael trafferth i gwblhau tasgau oherwydd bod y cynnwys yn rhy fanwl ac wedi’i ysgrifennu o safbwynt CNC.

Amser i ddangos a dweud

Ar ôl wyth diwrnod o ymdrechu’n galed a nodiadau post-it, roedd hi’n amser dangos i bobl beth oedden ni wedi bod yn gweithio arno. Dim ond dwy awr a gawson ni i dynnu popeth at ei gilydd i lunio cyflwyniad ar gyfer Bwrdd Llywodraethu Digidol CNC, felly roedden ni dan bwysau.

Dyma Sam a Lucinda yn gweithio ar y cyflwyniad…

alt text

Roedden ni’n falch iawn ac yn nerfus i ddangos ein gwaith. Wedi’n calonogi wrth weld ein tîm cyfan yn ymuno â’r alwad, fe wnaethon ni gyflwyno popeth yr oedden ni wedi’i wneud, gan gynnwys rhai clipiau trawiadol o’r profion defnyddioldeb a siarad am y prototeip.

Rydyn ni’n meddwl iddo fynd yn dda. Cafwyd rhai sylwadau cadarnhaol iawn a rhai cwestiynau y byddwn yn myfyrio arnynt.

Dim ond arbrawf

Felly, rydyn ni wedi cael lle i arbrofi a chydweithio i archwilio problem mewn ffordd ystwyth – yn unol â Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru. Ynghyd â phopeth yr ydyn ni wedi’i ddysgu gan ein siaradwyr gwych, mae gennyn ni lawer o egni a brwdfrydedd o’r newydd. Ac er bod y labordy a’n gwaith gyda chydweithwyr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar hyn wedi dod i ben, gallen ni barhau i archwilio’r broblem hon – mae gan CNC y sgiliau i’w gwneud!