Daeth y Nadolig braidd yn gynnar

Roedden ni fel plant fore Nadolig pan ymunodd Sarah Winters â ni yn ein Labordy.

Os nad ydych chi’n adnabod y syfrdanol Sarah Winters, hi ‘ddyfeisiodd’ y ddisgyblaeth o ddylunio cynnwys tra yn gweithio i Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU. Roedden ni wrth ein boddau.

Pan ddisgrifiodd Sarah yr hen fodel cyhoeddi yn DirectGov – yr hyn yr oedd y sefydliad am ei ddweud yn hytrach na’r hyn yr oedd angen i ddefnyddwyr ei wybod – ni allen ni fod wedi cytuno mwy! Efallai na fydd gennyn ni wefan 74,000 o dudalennau fel yr oedd gan DirectGov cyn iddi gael ei thrawsnewid yn GOV.UK â’i 3000 tudalen, ond nid yw ein gwefan ni yn bell i ffwrdd – ac mae’n dal i dyfu.

Anogodd Sarah ni i weithio yn yr agored cymaint â phosibl – agor llif gwaith a llywodraethu, mapiau taith defnyddwyr ac anghenion defnyddwyr, dangos defnyddwyr yn cael trafferth i gyflawni pethau, dangos tystiolaeth o ble mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn gweithio.

Mapio teithiau defnyddwyr

Fe wnaethon ni fapio tair taith:

  • gwirio a oes angen caniatâd arnoch i wneud rhywbeth ar dir CNC
  • gwneud cais am ganiatâd i wneud rhywbeth
  • adnewyddu caniatâd i wneud rhywbeth

Gyda geiriau Richard o’r wythnos ddiwethaf mewn golwg (‘dylunio mewn ffordd sy’n dangos cysyniadau lefel uchel ond sy’n caniatáu i fanylion gael eu llenwi’n ddiweddarach’), fe benderfynon ni ganolbwyntio ar lunio prototeip o daith wirio ac adnewyddu ond nid y daith gymhwyso. Byddai’r rhain yn rhannau symlach o’r gwasanaeth y gallen ni lunio prototeip ar eu cyfer o fewn ychydig ddyddiau. Byddai’r ddau yn rhoi’r cyfle i ni arddangos rhai syniadau newydd am sut y gallwn ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am leoliad, ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddweud rhywbeth wrthyn ni, ac atgoffa pobl pan fydd angen iddyn nhw wneud rhywbeth. Llunio Prototeip

Buon ni yn gweithio mewn sbrintiau. Gweithiodd Owain a Colm ar y prototeip gan ddefnyddio cit GOV.UK i adeiladu gwasanaeth o un pen i’r llall ar GitHub. Cyd-gynlluniodd Gwen, Laura, Lucinda a Sam y cynnwys ar gyfer y ddwy daith.

Ar ddiwedd y dydd fe wnaethon ni uno dau brototeip gweithredol gan gynnwys:

  • nodwedd llenwi ffurflen yn awtomatig fel nad oes angen i ddefnyddwyr ddewis o restr hir o fotymau radio
  • tudalen gwirio’r wybodaeth y gall defnyddwyr ei golygu os oedd yr wybodaeth a roddwyd ganddynt yn gynharach yn anghywir
  • syniadau ar gyfer sut y gallwn ni alluogi defnyddwyr i ddweud wrthyn ni am leoliad yn y ffordd y dymunan nhw: mapiau, cyfeirnod grid a chod post

Yn ogystal â dangos sut y gallwn ddefnyddio cydrannau rhyngweithiol yn hytrach na dim ond cynnwys i helpu defnyddwyr i ddeall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, roedd y prototeipiau yn cynnwys patrymau a allai fod yn berthnasol i wasanaethau eraill CNC.

Pethau eraill wnaethon ni yr wythnos honno

Cawson ni barti Nadolig. Dyma lun diwrnod nesaf ohonon ni (heb Shaun oherwydd yr oedd y tu ôl i’r camera) ar Graig-glais. Roedden ni’n mwynhau’r awyr iach ac yn trafod gwasanaethau cyn-ymgeisio CNC (wir yr! roedden ni wir!):

alt text

Craig-glais yw safle rheilffordd halio hiraf Prydain namyn un, gyda llaw.