Meddwl am gynnyrch gyda Richard Pope

Ein hail siaradwr gwych oedd Richard Pope. Gweithiodd Richard fel rheolwr cynnyrch ar gyfer y fersiwn gyntaf o GOV.UK.

Gan ganolbwyntio ar sut y gwnaethon nhw symud o 74,000 o dudalennau ar DirectGov i 3,000 tudalen sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr GOV.UK, clywsom fod y tîm wedi gwneud y canlynol:

  • argraffu tunelli o dudalennau gan DirectGov – a’u rhoi ar un pen i’r ystafell
  • ystyried edrych ar ddadansoddeg yr hyn a oedd yn cael ei ddefnyddio a’r hyn nad oedd yn cael ei ddefnyddio
  • chwilio am batrymau
  • creu grwpiau
  • meddwl am sut mae dylunio’r peth gorau posibl i ddiwallu angen y defnyddiwr – weithiau cynnwys rhyngweithiol, weithiau cynnwys wedi minimeiddio

Helpodd Richard ni i sylweddoli mai perchnogaeth cynnyrch yw ein ffrind – i wneud yn siŵr bod rhywun yn berchen arno neu bydd gennym gyflenwad heb weledigaeth. A ‘dangos, ddim dweud’ bob amser, gan fod gwneud yn ein helpu i feddwl ac egluro.

Archwilio rhai o’n heriau

Roedd gennyn ni dunelli o ddata defnyddwyr CNC gan gynnwys cofnodion galwadau, adborth defnyddwyr, canlyniadau profion defnyddioldeb cynharach, negeseuon e-bost, mapiau gwres a dadansoddeg. Gyda chylch gwaith eang, mae gan CNC lawer o feysydd gwaith – rhai yn gorgyffwrdd – a llawer o heriau i ddefnyddwyr.

Gwnaethon ni dreulio amser yn edrych ar y data er mwyn nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt. Fe benderfynon ni ganolbwyntio ar y gwasanaeth ‘caniatâd i wneud rhywbeth ar ein tir’. Roedden ni’n gwybod ei fod yn wasanaeth poblogaidd ac roedd gennyn ni dystiolaeth bod defnyddwyr yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth a chwblhau ceisiadau. Roedd yn bwysig ein bod yn gallu llunio prototeip ar gyfer rhywbeth o fewn amserlen y labordy ac, o gymharu â heriau eraill CNC, roedden ni’n teimlo mai ‘caniatâd’ oedd y gwasanaeth symlaf i ganolbwyntio arno.

Hygyrchedd a dyluniad cynhwysol gydag Alistair Duggin

Gwnaeth bore anhygoel gydag Al ein llenwi â brwdfrydedd dros ddylunio gwasanaethau hygyrch. Daeth Al ag elfennau o’i labordy empathi fel y gallen ni brofi rhan fach o’r diwrnod fel rhywun â gwahaniaeth gweledol, gan gynnwys dirywiad macwlaidd, golwg twnnel a cholli golwg ymylol.

alt text

Gan ddefnyddio personau hygyrchedd Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU, fe wnaethon ni ymarfer grid gyda’n gilydd. Fe wnaethon ni blotio pwy mewn tîm digidol arferol fyddai’n gyfrifol am beth a phryd.

alt text

Rhoddodd Al lawer i ni feddwl amdano gan gynnwys:

  • cynnwys hygyrchedd o’r cychwyn cyntaf
  • dyw’r we ddim yn brint – dylen ni ddim malio sut mae’n edrych
  • gallwch ddylunio ac adeiladu rhywbeth drwg a’i wneud yn hygyrch – yn lle hynny, dylunio gwasanaethau gwirioneddol ddefnyddiol
  • defnyddio amrywiaeth ddynol fel arf i’ch helpu i adeiladu pethau gwell
  • dylunio ymlaen llaw yw’r rhan fwyaf ohono – camsyniad yw mai cyfrifoldeb y datblygwr yw hygyrchedd
  • wrth greu gwasanaeth newydd, mapiwch ef o’r dechrau i’r diwedd a rhedwch eich personau hygyrchedd drwyddo i nodi problemau a heriau penodol

Archwilio syniadau posibl i ddiwallu rhai o’r anghenion defnyddwyr sydd wedi’u blaenoriaethu

Fe wnaethon ni rownd o ‘wyth annoeth’ - wyth munud i feddwl am wyth syniad gwahanol a’u braslunio.

Fe wnaethon ni rannu llawer o syniadau gan gynnwys:

  • cynnwys calendr
  • defnyddio mapiau i nodi lleoliadau a llwybrau
  • defnyddio coeden benderfynu/ brysbennu

alt text

Dewison ni un o’n syniadau, ei greu’n gyflym fel map gwasanaeth a’i gyflwyno i dîm y labordy, gan gynnwys Richard ac Alistair. Buon ni’n siarad am rai o heriau hygyrchedd mapiau.

alt text alt text